Cocên
cocaine- Crack cocaine
- Bing
- Powder
- Nose candy
- Bolivian marching powder
- Rocks
- Freebase
- Crack cocaine
- Sniff
- Ching
- Rock cocaine
- Stones
- Crack
- White
- Charlie
- Snow
- Coke
Enwau Gwyddonol: Bensoilmethylecgonin
Enwau Generig: Cocên
Effeithiau A Ddymunir:
- Ewfforia
- Llonder
- Hwyliau da
- Hyder eithriadol
Sgîl Effeithiau:
- Anhunedd
- Cynnydd yn nghyfradd curiadau'r galon a'r gyfradd pwysedd gwaed
- Colli archwaeth
- Tyndra, ymddygiad ymosodol
- Paranoia
- Peidiwch â defnyddio cocên ac alcohol gyda'i gilydd. Bydd risg marwolaeth yn 18-25 gwaith yn fwy pan ddefnyddir alcohol a chocên gyda'i gilydd.
- Peidiwch â defnyddio unrhyw gyffuriau eraill gyda'r cocên nac i'ch helpu i ymdopi pan fydd yr effeithiau'n diflannu.
- Gofalwch am eich trwyn; gall sniffian cocên yn rheolaidd achosi niwed i feinweoedd bregus y trwyn. Dylech falu'r powdwr mor fân ag y gallwch chi. Dylech rinsio'r trwyn gan ddefnyddio dŵr hallt llugoer ar ôl sniffian. Dylech roi'r gorau i gymryd cocên am ychydig os byddwch yn profi llid neu waedu yn eich trwyn, a rhoi cyfle i'ch corff adfer.
- Peidiwch â rhannu unrhyw wellt, arian papur nac offer sniffian oherwydd gall hyn ledaenu firysau megis hepatitis neu Covid-19. Defnyddiwch welltyn glân neu defnyddiwch bapur glân sydd heb ei ddefnyddio i greu eich tiwb eich hun.
- Gofalwch am eich ffrindiau fel y byddech chi am i eraill ofalu amdanoch chi.
- Os bydd rhywun yn profi anawsterau, ffoniwch am ambiwlans. Os bydd rhywun yn anymwybodol, dylech eu gosod yn yr ystum adferol cyn ffonio am ambiwlans.
- Os bydd dewis ar gael i chi, defnyddiwch eich pibell wydr glân neu eich coesyn peirecs glân eich hun; peidiwch â defnyddio pibelli cartref wedi'u creu gan ddefnyddio plastig neu hen duniau.
- Peidiwch fyth â rhannu pibelli na chatiau.
- Defnyddiwch swab alcohol i lanhau eich pibell a'ch cetyn.
- Gadewch i'r bibell oeri cyn mewnanadlu eto i osgoi llosgi eich ceg.
- Dylech bod amser ddefnyddio ffoil alwminiwm heb ei gaenu i ysmygu. Mae ar gael gan rai cyfnewidfeydd nodwyddau.
- Peidiwch fyth â rhannu offer chwistrellu gan gynnwys llwyau, potiau dŵr a hidlyddion.
- Sicrhewch fod gennych chi ddigon o offer chwistrellu. Maent ar gael am ddim gan Gyfnewidfeydd Nodwyddau.
- Mae cocên yn anaesthetig, felly gall ffrwyno poen wrth leoliad y pigiad, gan beri i ddefnyddwyr fethu â phigo gwythiennau ac achosi casgliadau.
- Peidiwch fyth â rhannu offer chwistrellu gan gynnwys llwyau, potiau dŵr a hidlyddion.
- Peidiwch â'u defnyddio ar eich pen eich hun (oherwydd ni fydd neb ar gael i'ch helpu os cewch chi orddos);
- Sicrhewch bob amser fod gennych chi gyflenwad o Nalocson. Fe wnaiff Nalocson ddad-wneud dros dro effeithiau unrhyw opioidau megis methadon neu heroin yn eich system.
- Os bydd rhywun yn anymwybodol, dylech eu gosod yn yr ystum adferol cyn ffonio am ambiwlans.
- Gofalwch am eich ffrindiau fel y byddech chi am i eraill ofalu amdanoch chi.
- Cofiwch ofalu amdanoch chi eich hun yn gorfforol ac yn feddyliol; cofiwch gysgu digon a bwyta'n dda yn ddyddiol. Gall effeithiau symbylol cocên effeithio ar eich patrymau cysgu a ffrwyno eich archwaeth. Mae bwyta prydau iach rheolaidd, cysgu digon a hylendid da oll yn agweddau pwysig ar gadw'n iach.
- Gall iechyd corfforol ddirywio'n rhwydd os ydych chi'n defnyddio cocên yn rheolaidd, yn enwedig os ydych chi'n ei ddefnyddio'n feunyddiol. Os bydd eich iechyd corfforol yn dirywio, gall hynny achosi problemau mwy difrifol, gan effeithio ar waith a pherthnasoedd.
- Mae cymorth a chyngor ar gael i unrhyw un sy'n poeni am eu harferion defnyddio cocên.
Risgiau tymor byr
Goddefedd o ran y cyffur, Paranoia, gofid, Gorddos (posibilrwydd o farw).
Effaith ddymunol
Ewfforia, bywiogrwydd, hwyliau da, hyder.
Risgiau tymor hir
Dibyniaeth seicolegol gref, Seicosis.
Tymor Hir:
- Goddefedd
- Dod yn gaeth i'r cyffur, a symptomau diddyfnu. Gall defnyddwyr cocên ddod yn gaeth i'r cyffur hyd yn oed ar ôl cyfnodau byr o ddefnydd rheolaidd. Mae crac cocên yn fwy dwys, felly credir ei fod yn fwy tebygol o achosi caethiwed cronig.
- Gall cocên achosi seicosis dros dro sy'n gysylltiedig a defnyddio cyffuriau a sbarduno achosion o seicosis ymhlith y sawl sy'n dueddol o brofi'r salwch hwnnw.
- Gall sniffian cocên yn yr hirdymor achosi niwed difrifol i'r trwyn.
- Mae ysmygu crac yn yr hirdymor yn achosi niwed difrifol i'r ysgyfaint.
- Mae chwistrellu crac cocên yn cynyddu'r risg o gael gorddos a marw'n ddisymwth, yn enwedig o gofion y caiff ei chwistrellu gyda heroin yn aml, a cheir mwy o risg hefyd o ddal firysau a gludir yn y gwaed, dal heintiau a chael niwed i'r meinweoedd meddal.
Tymor Byr:
- Paranoia
- Gorbryder
- Ffitiau
- Pwysedd gwaed sy'n beryglus o uchel
- Strôc
- Trawiad ar y galon
- Marwolaeth ddisymwth.
Yn 2024, bu 1,279 o farwolaethau yn ymwneud â chocên yng Nghymru a Lloegr. Mae nifer y marwolaethau unarddeg gwaith yn uwch nag yr oeddent yn 2011. Digwyddodd 258 o'r marwolaethau pan oedd y defnyddwyr yn cymryd alcohol - mae hynny'n gymysgedd gyffredin yn achos pobl sy'n troi allan i gymdeithasu. Bydd risg marwolaeth ddisymwth yn 18-25 gwaith yn fwy pan ddefnyddir alcohol a chocên gyda'i gilydd. Fodd bynnag, mae'n debygol bod cyfran fawr o farwolaeth yn sgil cocên yn ymwneud â defnyddio crac cocên, oherwydd bydd yr effeithiau yn fwy dwys pan gaiff ei ysmygu, ac yn aml iawn, caiff ei chwistrellu gyda heroin.
Mae cocên yn gyffur sy'n ysgogydd, a'r math mwyaf cyffredin o'r cyffur yw'r powdwr gwyn, cocên hydroclorid. Crac cocên yw enw’r math solet y gellir ei ysmygu sydd ar gael yn y DU. Mae crac cocên yn lympiau neu 'greigiau' bychan llwydwyn.
Os caiff ei chwistrellu: Nodwyddau a Chwistrellau, dŵr, Swabiau.
Os caiff ei ysmygu: Ffoil, matsis/taniwr, pib crac ("Bong") sydd naill ai wedi cael ei chynhyrchu'n fasnachol o wydr / peirecs neu wedi'i gwneud gartref o dun diod neu lestri gwydr.
Rhieni a pherthnasau eraill
Mae asiantaethau cyffuriau hefyd yn darparu llawer o gyngor a chefnogaeth i rieni pobl sy'n defnyddio'r cyffuriau hyn. Gall llawer o asiantaethau stryd gynnig grwpiau cefnogi neu gwnsela i aelodau teuluoedd, partneriaid ac ati.