Codeine
codeine- Syrup
- Captain Cody
- Cody
Enwau Gwyddonol: 3-methylmorphine
Enwau Generig: Codeine Phosphate

Effeithiau A Ddymunir:
Llonyddwch, llai o bryder, ymlaciad, lleddfu poen.Sgîl Effeithiau:
Syrthni, ffwndro, dryswch, teimlo'n sâl a chwydu, cosi a chwiwiau poeth, rhwymeddTymor Hir:
Dibyniaeth gorfforol a seicolegol drwy ddefnyddio'n fynych. Mae llawer o gymysgedd codeine yn cynnwys poen laddwyr, megis paracetamol, ac os cymerir dosiau mawr, gall fod yn wenwynol i'r iau.Tymor Byr:
Goddefiad, damweiniau, gorddos. Yn union fel dihydrocodeine, dylid osgoi ei roi yn fewnwythiennol, oherwydd gall hyn arwain at niweidio'r gwythiennau a chylchrediad, hylif ar yr ysgyfaint a all fod yn beryglus iawn ac adwaith alergaidd difrifol iawn a all arwain at farwolaeth.Rhieni a pherthnasau eraill
Mae asiantaethau cyffuriau hefyd yn darparu llawer o gyngor a chefnogaeth i rieni pobl sy'n defnyddio'r cyffuriau hyn. Gall llawer o asiantaethau stryd gynnig grwpiau cefnogi neu gwnsela i aelodau teuluoedd, partneriaid ac ati.