Codin
codeine- Syrup
- Captain Cody
- Cody
Enwau Gwyddonol: 3-methylmorffin
Enwau Generig: Codin. Mae'r gyfraith yn ei ystyried yn opioid.
Effeithiau A Ddymunir:
Dedwyddwch, llai o bryder, ymlacio, lleddfu poen.Sgîl Effeithiau:
Syrthni, dryswch, teimlo'n ddryslyd, cyfog a salwch, cosfa a fflysio o'r croes, rhwymedd.Tymor Hir:
Caethiwed corfforol a seicolegol yn sgil ei ddefnyddio'n rheolaidd. Mae nifer o gymysgeddau codin yn cynnwys poenleddfwyr megis parasetamol, a gall dosys cryf ohonno fod yn wenwynig i'r iau.Tymor Byr:
Goddefedd, damweiniau, gorddos. Fel yn achos dihydrocodin, dylid osgoi ei chwistrellu'n fewnwythiennol, oherwydd gall achosi difrod i'r gwythiennau a'r cylchrediad, hylif ar yr ysgyfaint (a all fod yn beryglus iawn), ac adwaith alergaidd difrifol all achosi marwolaeth.Mae codin yn opioid a geir yn naturiol yn y pabi opiwn. Mae Codin ar gael fel arfer fel tabledi, hylif drwy'r geg, ac weithiau mewn ffiolau chwistrelladwy i'w roi yn y cyhyr.
Rhieni a pherthnasau eraill
Mae asiantaethau cyffuriau hefyd yn darparu llawer o gyngor a chefnogaeth i rieni pobl sy'n defnyddio'r cyffuriau hyn. Gall llawer o asiantaethau stryd gynnig grwpiau cefnogi neu gwnsela i aelodau teuluoedd, partneriaid ac ati.