Dihydrocodeine

dihydrocodeine
  • Diffs.
  • DHC
  • DF118's
  • DF's

Cyffuriau A i Y

Enwau Gwyddonol: 4,5-alpha-epoxy-3-methoxy-17-methyl-morphinan-6-ol

Enwau Generig: Dihydrocodeine

An example of what Dihydrocodeine looks like
Mae Dihydrocodeine ar gael fel arfer fel tabledi, ac hefyd fel tabledi rhyddhau hir, hylif drwy'r geg, ac weithiau mewn ffiolau chwistrelladwy ar gyfer gweinyddu yn y cyhyr.

Effeithiau A Ddymunir:

Dedwyddwch, llai o bryder, ymlacio, lladdwr poen

Sgîl Effeithiau:

Syrthni, dryswch, teimlo'n ddryslyd, cyfog a salwch, cosfa a fflysio y croen, rhwymedd.

Tymor Hir:

Dibyniaeth gorfforol a seicolegol gyda defnydd niferus. Mae nifer o baratoadau dihydrocodeine yn cynnwys poen laddwyr megis paracetamol, a gall dos uchel fod yn wenwynig i'r iau.

Tymor Byr:

Goddefgar, damweiniau, gorddos. Fel gyda codeine, dylid osgoi gweinyddu mewnwythiennol, gan y gall arwain at ddifrod i'r gwythiennau a chylchrediad, hylif ar yr ysgyfaint a all fod yn beryglus, a adwaith alergedd difrifol all arwain at farwolaeth.
Poen laddwr opioid lled-synthetig. Iselydd y system nerfol ganolog, poen laddwr, lleddfwr peswch.
Bydd tabledi'n cael eu llyncu drwy'r geg. Nid yw Dihydrocodeine yn toddi mewn dŵr ac felly mae'n anodd ei chwistrellu - mae defnyddwyr sydd wedi ceisio malu tabledi'n fân er mwyn chwistrellu wedi nodi ei fod yn brofiad poenus. Mae ffiolau chwistrelladwy ar gyfer pigiad yn y cyhyr yn unig.
Os yw'n cael ei chwistrellu, ffiolau wedi’u paratoi, nodwydd, chwistrell.
I drin poen cymedrol i ddifrifol yn ogystal â pheswch a rhywun sy'n fyr ei gwynt. Gellir canfod Dihydrocodeine mewn meddyginiaethau eraill megis Co-dydramol a Paramol, sydd hefyd yn cynnwys paracetamol.
Dyma gyffuriau fferyllol sydd weithiau'n cael ei ddargyfeirio gan wneuthurwyr, fferyllfeydd neu bresgripsiwn Meddyg Teulu.
Gall y rhai sy'n defnyddio DF gael cymorth gan 'asiantaethau stryd' neu brosiectau, a elwir weithiau yn wasanaethau cyffuriau cymuned neu dimau cyffuriau cymuned, sy'n cynnig ystod o wasanaethau yn cynnwys gwybodaeth a chyngor, cwnsela, dadwenwyno a rhagnodi i rai sy'n defnyddio opiadau, cyfnewid nodwyddau ac weithiau grwpiau cefnogi a gwasanaethau eraill fel aciwbigo. Mae rhai'n agor am oriau hirach ac weithiau ar benwythnosau. Gall meddygon teulu ac ysbytai wneud cyfeiriadau at wasanaethau fel Unedau Dibyniaeth Cyffuriau (DDU). Mae'r rhain fel arfer mewn neu ger ysbytai ac maen nhw'n arbenigo mewn helpu'r rhai sy'n defnyddio cyffuriau, yn enwedig pobl sy'n gaeth yn gorfforol. Mae nhw'n cynnig cwnsela, dadwenwyno, rhagnodi amnewidion a thriniaethau eraill. Mae gwasanaethau preswyl yn cynnig rhaglenni triniaeth i rai sy'n gaeth iawn i gyffuriau ac sy'n ymdrechu i roi'r gorau iddi. Rhaid i breswylwyr fod yn rhydd o gyffuriau wrth gael eu derbyn fel arfer, sy'n golygu bod yn rhaid iddynt gael eu dadwenwyno cyn mynd i mewn. Fel arfer, mae rhaglenni'n para 3-6 mis, ond mae rhai rhaglenni 12 cam yn para mwy. Mae'r mathau o raglenni yn amrywio. Mae grwpiau hunan gymorth fel Narcotics Anonymous (NA) yn cydlynu grwpiau cefnogi lleol i rai sy'n defnyddio cyffuriau ar hyd a lled y wlad. Mae Families Anonymous yn cynnal grwpiau tebyg i deuluoedd rhai sy'n defnyddio cyffuriau.

Rhieni a pherthnasau eraill

Mae asiantaethau cyffuriau hefyd yn darparu llawer o gyngor a chefnogaeth i rieni pobl sy'n defnyddio'r cyffuriau hyn. Gall llawer o asiantaethau stryd gynnig grwpiau cefnogi neu gwnsela i aelodau teuluoedd, partneriaid ac ati.

Cuddio
Ffôn di-dal:
Neu tecstiwch DAN i: