DMT
dmt- Dimitri
- Businessmans Lunch
Enwau Gwyddonol: N,N-Dimethyltryptamine
Enwau Generig: Dimethyltryptamine

Effeithiau A Ddymunir:
Rhithbeiryn pwerus sy’n debyg i LSD a madarch, sy’n gweithio’n gyflym gyda effeithiau dwys iawn sy’n para oddeutu 15 i 20 munud, newidiadau mewn ymwybyddiaeth ac aflunio realiti.Sgîl Effeithiau:
Dryswch, cynyddu cyfradd y galon a phwysedd gwaed, cyfog a chwydu.Tymor Hir:
Anawsterau seicolegol ac emosiynol am wythnosau wedyn, nid yw’r effeithiau tymor hir yn hysbys eto ond gall fod yn debyg i LSD a sylweddau rhithbeiriol eraill.Tymor Byr:
Llid y gwddf neu’r ysgyfaint os ydych yn ei ysmygu, unwaith bydd trip yn dechrau ni fyddwch yn gallu rhoi’r gorau iddo, bydd y profiadau ar hap a byddent yn dibynnu ar gyflwr meddyliol y defnyddiwr, gall rhai profiadau godi ofn, gall ôl-fflachiau ddigwydd dyddiau neu wythnosau wedyn ac mae rhai defnyddwyr yn dweud eu bod wedi cael effeithiau emosiynol annymunol sy’n para sawl diwrnod ar ôl cymryd DMT.Rhieni a pherthnasau eraill
Mae asiantaethau cyffuriau hefyd yn darparu llawer o gyngor a chefnogaeth i rieni pobl sy'n defnyddio'r cyffuriau hyn. Gall llawer o asiantaethau stryd gynnig grwpiau cefnogi neu gwnsela i aelodau teuluoedd, partneriaid ac ati.