DMT

dmt
  • Dimitri
  • Businessmans Lunch

Cyffuriau A i Y

Enwau Gwyddonol: N,N-Dimethyltryptamine

Enwau Generig: Dimethyltryptamine

An example of what DMT looks like
Powdr gwyn crisialaidd pan fydd ar ffurf bur. Fodd bynnag yn gyffredinol mae DMT y stryd yn bowdr amhur sy’n cael ei werthu wedi’i lapio a gall fod yn bowdr llwydwyn, melyn, oren a phinc neu hyd yn oed ar ffurf solid.

Effeithiau A Ddymunir:

Rhithbeiryn grymus tebyg i LSD a madarch hud sydd ag effeithiau byrhoedlog (15-20 munud) a dwys iawn sy'n newid ymwybyddiaeth ac yn gwyrdroi realiti.

Sgîl Effeithiau:

  • Colli cyswllt â'r amgylchedd
  • Cynnydd yn nghyfradd curiadau'r galon a'r gyfradd pwysedd gwaed
  • Cyfog a chwydu.

Tymor Hir:

Mae'r wybodaeth am y risgiau hirdymor yn brin iawn.

Tymor Byr:

  • Mae DMT yn rhithbeiryn cryf a achosi newid trawiadol iawn i agwedd, ymwybyddiaeth a phrofiadau synhwyraidd unigolyn. Bydd rhai pobl yn teimlo bod y profiad hwn yn drawsnewidiol ac yn ddyrchafol. Bydd yn brofiad trawmatig i eraill. Gallai DMT achosi canlyniadau andwyol difrifol i ddefnyddwyr sydd eisoes â salwch seicotig.
  • Gall defnydd trwm o'r cyffur neu ei ddefnyddio gyda chyffuriau eraill sy'n cynnwys serotonin (e.e. gwrthiselyddion SSRI) achosi syndrom serotonin, cyflwr sy'n peryglu bywyd.
  • Gall dosys cryfach o DMT achosi ffitiau, ataliad anadl a choma.
Mae'n deillio o'r teulu o dryptaminau naturiol sy'n achosi effeithiau rhithbeiriol.

Mae DMT yn rhithbeiryn grymus, ac mae'r cyffur pur yn bowdwr crisialog gwyn. Fodd bynnag, yn amlach na pheidio, mae DMT stryd yn bowdwr amhur a werthir mewn defnydd lapio, a gall fod yn bowdwr (neu hyd yn oed yn solid) llwydwyn, melyn, oren neu binc.
Os caiff ei ysmygu neu ei anweddu, mae dimethyltryptamin yn gyffur seicadelig sydd ag effeithiau byrhoedlog (yn para rhwng 15 munud ac awr) - tebyg i LSD. Os caiff ei amlyncu gyda MAOI (atalydd monoamin ocsidas) neu gyfrwng RIMA (atalydd monoamin ocsidas cildroadwy), daw'n actif trwy'r geg a bydd yr effeithiau'n para cryn dipyn yn hirach.
Peipen neu bong os ydych yn ei ysmygu. Os ydych yn ei sniffian bydd angen llafn rasel, arwyneb gwastad caled (fel drych neu wydr), tiwb neu pres papur wedi’i rolio. Os ydych yn ei chwistrellu bydd angen nodwyddau, chwistrelli a dŵr.
Mae'n gyffur naturiol a geir yn hadau planhigion sy'n tyfu yn Ne America ac yn India'r Gorllewin, a chaiff ei syntheseiddio hefydd.
Mae gan y rhan fwyaf o ardaloedd yn y DU brosiectau neu ‘asiantaethau stryd’ (a elwir weithiau yn wasanaethau cyffuriau cymuned neu dimau cyffuriau cymuned) sy’n cynnig amryw o wasanaethau yn cynnwys gwybodaeth a chyngor, cwnsela a weithiau grwpiau cefnogi a therapiau cyflenwol fel aciwbigo. Mae gan rai gwasanaethau oriau gweithio hirach ac efallai byddent yn rhoi cefnogaeth dros y penwythnos. Os bydd defnyddio’r sylwedd hwn yn dod yn broblem gallwch gael cymorth, cyngor a chwnsela gan wasanaeth yn eich ardal. Gall Meddygon Teulu eich cyfeirio at wasanaethau cyffuriau arbenigol. Os ydych eisiau disgrifiad o’r hyn y mae’r gwasanaethau cyffuriau gwahanol yn ei wneud, dewisiwch gwasanaethau sy’n helpu yma neu’r brif ddewislen.

Rhieni a pherthnasau eraill

Mae asiantaethau cyffuriau hefyd yn darparu llawer o gyngor a chefnogaeth i rieni pobl sy'n defnyddio'r cyffuriau hyn. Gall llawer o asiantaethau stryd gynnig grwpiau cefnogi neu gwnsela i aelodau teuluoedd, partneriaid ac ati.

Cuddio
Ffôn di-dal: