Ecstasi
ecstasy- Shamrocks
- Green Apple
- Pink Love
- Tabledi
- Mitzies
- Exies
- Echos
- Eckies
- E
- Ecstasi
- Burgers
- MDEA
- MDMA
- Phenethylamines
- Pigs
Enwau Gwyddonol: Methylenedioxymethylamphetamine: Ydy o'n unrhyw syndod bod hwn yn cael ei dalfyrru yn MDMA?
Enwau Generig: Phenethylamines

Effeithiau A Ddymunir:
Ewfforia, empathi, llonder, egni.Sgîl Effeithiau:
Chwysu, cyfog, chwydu, symudiadau llygaid cyflym (nystagmus), dadhydradiad, dryswch, pryder.- Dydych chi byth yn gwybod beth sydd yn y dabled neu'r powdr rydych chi'n ei gael felly byddwch yn ofalus - defnyddiwch ychydig bach yn gyntaf i weld beth yw'r effeithiau ac arhoswch ychydig cyn cymryd mwy.
- Os ydych yn defnyddio ecstasi ac yn dawnsio, cymrwch hoe i oeri, gall ecstasi achosi gorgynhesu a dadhydradu.
- Sicrhewch fod eich cydbwysedd dŵr yn iawn - os ydych chi'n dawnsio ac yn chwysu dylech yfed hyd at beint o ddiod di-alcohol bob awr i helpu i ddisodli'r hylif a gollir trwy chwysu. Os nad ydych chi'n dawnsio a chwysu yna yfwch ychydig yn llai o ddŵr - mae angen i chi gofio y gall yfed gormod o ddŵr ar yr un pryd fod yn beryglus.
- Bydd cymysgu ecstasi ag alcohol yn cynyddu'r risg o ddadhydradu a gall beri ichi gymryd mwy o risgiau; ac mae cymysgu ecstasi ag unrhyw gyffuriau eraill yn cynyddu'r risgiau ymhellach a gall fod yn beryglus iawn.
- Os ydych chi'n dioddef o unrhyw fath o gyflwr ar y galon dylech osgoi cyffuriau symbylu fel ecstasi.
- Os dewiswch ddefnyddio ecstasi mae'n fwy diogel defnyddio symiau bach yn achlysurol, gan roi amser i'ch corff wella.
- Os yw rhywun yn dioddef effeithiau gwael fel chwydu, confylsiynau, mynd yn anymwybodol - rhowch nhw yn y safle adfer a galwch am gymorth meddygol ar unwaith.
Risgiau tymor byr
Cynnwys anhysbys trawiad gwres, ymgwympo, coma.
Effaith ddymunol
Ewfforia, empathi, llonder, egni
Risgiau tymor hir
Effeithiau ar les meddyliol, iselder, niwed i'r iau a'r arennau
Tymor Hir:
Nid ydynt yn glir eto, ond gallent gynnwys aflonyddwch seicolegol, iselder, niwed i'r iau a'r arennau. Mae tystiolaeth gynyddol o niwed i'r terfynau nerf yn yr ymennydd ond mae effeithiau hyn ar ymddygiad a'r canlyniadau hir dymor i ddefnyddwyr yn dal yn anhysbys.Tymor Byr:
Cynnwys anhysbys y tabledi (mae llawer o dabledi ffug yn cael eu gwerthu fel ecstasi, sy'n gallu cynnwys sylweddau eraill mwy gwenwynig), trawiad gwres, ymgwympo, coma.Gall y rhain gynnwys cyfansoddion eraill y teulu phenethylamine, megis methylenedioxyamphetamine (MDA) neu methylenedioxyethylamphetamine (MDEA). Maen nhw hefyd yn gallu cynnwys cymysgedd o gyffuriau eraill fel amffetaminau a LSD, caffein, Ketamine ac ephedrin.
Mae tabledi eraill sy'n edrych yn debyg iddynt, ond nad ydynt yn cynnwys unrhyw gyffuriau o gwbl. Nid oes ffordd ddibynadwy o ddarganfod beth sydd mewn tabled sy'n dod o'r farchnad gyffuriau anghyfreithlon hon heb eu dadansoddi.
Rhieni a pherthnasau eraill
Mae asiantaethau cyffuriau hefyd yn darparu llawer o gyngor a chefnogaeth i rieni pobl sy'n defnyddio'r cyffuriau hyn. Gall llawer o asiantaethau stryd gynnig grwpiau cefnogi neu gwnsela i aelodau teuluoedd, partneriaid ac ati.