Ecstasi
ecstasy- E
- Ecstasi
- MDMA
- Phenethylamines
- Magic
- Pills
- XTC
- Disco Biscuits
- Molly
Enwau Gwyddonol: Methylenediocsimethylamffetamin (MDMA yw'r talfyriad)
Enwau Generig: Ffenethylaminau, Empathogenau.
Effeithiau A Ddymunir:
- Ewfforia
- Empathi
- Llonder
- Egni.
Sgîl Effeithiau:
- Chwysu
- Cyfog a chwydu
- Gwasgu'r safn (brwcsiaeth)
- Crensio dannedd
- Symudiadau llygaid cyflym (nystagmus)
- Diffyg hylif
- Dryswch
- Gorbryder, paranoia.
Dywed llawer o ddefnyddwyr y byddant yn teimlo'n lluddedig, yn orbryderus neu â hwyl ddrwg arnynt am ddyddiau (neu'n hirach ar brydiau) ar ôl profi MDMA.
- Os gallwch chi, defnyddiwch brawf adweithydd i gadarnhau beth sydd yn eich pils neu eich powdwr cyn eu defnyddio. Nid yw'r rhain yn ddi-feth ond mae'n hawdd canfod rhai i'w prynu. Os byddwch chi neu eich ffrindiau yn mynd i glwb nos neu ŵyl ac rydych wedi prynu'r MDMA ymlaen llaw, anfonwch sampl at WEDINOS i'w brofi.
- Allwch chi fyth wybod beth yn union sydd mewn tabled neu bowdwr a roddir i chi, felly byddwch yn ofalus. Peidiwch â chymryd mwy na chwarter neu hanner pilsen i ddechrau er mwyn canfod beth yw'r effeithiau, a disgwyliwch awr o leiaf cyn cymryd rhagoro.
- Yn achos powdwr neu grisialau, dylid eu malu'n fân a dabio ychydig a disgwyl o leiaf awr i ganfod y cryfder neu unrhyw adweithiau anffafriol.
- Os byddwch yn defnyddio MDMA ac yn dawnsio, oedwch yn rheolaidd i oeri'ch corff oherwydd gall ecstasi achosi gorboethi a diffyg hylif. Pa un ai a fyddwch chi'n dawnsio ai peidio, dylech sipian dŵr yn rheolaidd (hyd at beint o ddŵr yr awr ond ddim mwy na hynny). Gall yfed llawer o ddŵr mewn cyfnod byr fod yn beryglus.
- Os byddwch yn teimlo bod eich corff yn gorboethi, oedwch am ychydig ac ewch i rywle oerach, tynnwch eich het neu unrhyw ddillad diangen, sipiwch ddŵr a/neu sblasiwch ddŵr ar eich croen. Os na allwch oeri eich corff, ewch i weld y gwirfoddolwyr lles neu ceisiwch gymorth meddygol.
- Bydd cymysgu ecstasi ag alcohol yn cynyddu'r risg o brofi diffyg hylif a gall hynny wneud i chi fentro mwy, a bydd cymysgu ecstati ag unrhyw gyffuriau eraill yn cynyddu'r risgiau yn fwy fyth a gall hynny fod yn beryglus iawn.
- Os byddwch yn penderfynu defnyddio ecstasi, bydd hi'n fwy diogel i chi ddefnyddio cyfansymiau bychan ohono yn achlysurol, i sicrhau y caiff eich corff gyfle i adfer.
- Os bydd rhywun yn profi effeithiau anffafriol megis chwydu neu gonfylsiynau, ffoniwch am gymorth meddygol yn syth. Os bydd rhywun yn anymwybodol, dylech eu gosod yn yr ystum adferol cyn ffonio am gymorth meddygol.
Risgiau tymor byr
Cynnwys anhysbys trawiad gwres, ymgwympo, coma.
Effaith ddymunol
Ewfforia, empathi, llonder, egni
Risgiau tymor hir
Effeithiau ar les meddyliol, iselder, niwed i'r iau a'r arennau
Tymor Hir:
Mae'r risgiau hirdymor yn dal yn aneglur ac mae arbenigwyr yn anghytuno i raddau yn eu cylch, ond ar y cyfan, credir na wnaiff defnydd ysgafn anaml o'r cyffur achosi unrhyw effeithiau andwyol hirdymor a bod defnydd am a thrwm yn fwy tebygol o achosi niwed seicolegol a corfforol.Tymor Byr:
- Yn aml iawn, caiff ecstasi ei gamwerthu ar ffurf pils neu bowdwr sydd efallai heb unrhyw sylweddau actif, neu ar brydiau, yn cynnwys sylweddau mwy peryglus. Yn fwy cyffredin, mae'r pils a'r powdwr a gamwerthir yn cynnwys cathinonau, a bydd y cryfder y dos sydd ynddynt fel arfer yn peri'r un math o risgiau ag MDMA. Fodd bynnag, yn aml iawn, bydd powdwr MDMA yn bur iawn, a bydd y pils ddwywaith mor gryf â'r hyn a ystyrir yn ddos cryf.
- Ceir llinell dorri ar lawer o'r pils cryf oherwydd bwriedir iddynt gynnwys mwy nag un dos.
- Bydd gorddos o MDMA yn dibynnu ar gryfder y dos, pwysau eich corff a gwahaniaethau unig, oherwydd ni fydd neb yn adweithio yn union yr un fath i'r cyffur.
- Bu 78 o farwolaethau a oedd yn ymwneud ag MDMA yng Nghymru a Lloegr yn 2024.
- Yn aml iawn, bydd adwaith gwenwynol yn cyfrannu at farwolaethau, ond gall methiant y galon a thrawiad gwres gyfrannu at hynny hefyd.
- Mae trawiad gwres yn gyflwr sy'n cael ei achosi gan MDMA (neu symbylyddion eraill) pan fyddant yn cynyddu tymheredd y corff i lefel sy'n beryglus o uchel, a gall dawnsio am gyfnodau sylweddol mewn clybiau poeth waethygu'r cyflwr.
Rhieni a pherthnasau eraill
Mae asiantaethau cyffuriau hefyd yn darparu llawer o gyngor a chefnogaeth i rieni pobl sy'n defnyddio'r cyffuriau hyn. Gall llawer o asiantaethau stryd gynnig grwpiau cefnogi neu gwnsela i aelodau teuluoedd, partneriaid ac ati.