Ephedrine

ephedrine
  • Ephedrine
  • Ephedrine Sulphate
  • Ephedrine Hydrochloride

Cyffuriau A i Y

Enwau Gwyddonol: Ephedrine Hydrochloride, Ephedrine Sulphate

Enwau Generig: Ephedrine

An example of what Ephedrine looks like
Powdr gwyn crisialaidd; tabledi 15mg, 30mg a 60mg.

Effeithiau A Ddymunir:

Yn aml caiff Ephedrine ei werthu fel amffetaminau neu gynnyrch tebyg fel ecstasi neu wedi’i gymysgu â hwy. Heb yn wybod byddai defnyddwyr yn chwilio am ewfforia, bywiogrwydd, hyder ac egni.

Sgîl Effeithiau:

Insomnia, diffyg archwaeth, tensiwn.

Tymor Hir:

Dibynnol ar symbylyddion, arrhythmia’r galon, trawiad ar y galon, cynnydd uchel yn eich pwysedd gwaed, strôc a niwed i dderbynyddion yr ymennydd.

Tymor Byr:

Pryder, paranoia, goddefgarwch, dryswch, aflonyddwch a phanig.
Symbylu’r brif system nerfol.
Mae’n cael ei ddefnyddio fel cymorth i golli pwysau a hefyd fel llenwad neu ‘toriad’ mewn amffetamin a chynnyrch eraill. Gellir ei lyncu fel tabled, ei sniffian i fyny’r trwyn, ei doddi mewn diod neu ei chwistrellu.
Os ydych yn ei sniffian bydd angen llafn rasel, arwyneb gwastad caled (fel drych neu wydr), tiwb neu bres papur wedi’i rolio.

Os ydych yn ei chwistrellu: bydd angen chwistrell a nodwydd, dŵr a rhwymyn tynhau.
I drin bronchitis ac asthma, cyflyrau alergedd fel clwy’r gwair, ac fel chwistrell trwynol.
Alcaloid ydyw sy’n dod o amryw o blanhigion sy’n perthyn i’r teulu Ephedra. Mae’n gyffur fferyllol sydd weithiau’n dod o wneuthurwr cyfreithlon. Mae hefyd yn cael ei gynnwys mewn cynnyrch dros y cownter sy’n cael eu gwerthu mewn fferyllfeydd.
Mae gan y rhan fwyaf o ardaloedd yn y DU brosiectau neu ‘asiantaethau stryd’ (a elwir weithiau yn wasanaethau cyffuriau cymuned neu dimau cyffuriau cymuned) sy’n cynnig amryw o wasanaethau yn cynnwys gwybodaeth a chyngor, cwnsela, newid nodwyddau ac weithiau grwpiau cefnogi a therapïau cyflenwol fel aciwbigo. Mae’r cynnydd mewn defnyddio symbylyddion wedi arwain at rai asiantaethau i gynnig cwnsela arbenigol, therapi ymddygiad gwybyddol, aciwbigo a therapïau gwahanol eraill a rhagnodi cyffuriau gwrthiselder, a chyfeiriad posibl at adsefydliad preswyl hefyd. Mae gan rai gwasanaethau oriau gweithio hirach ac efallai byddent yn rhoi cefnogaeth dros y penwythnos. Gall Meddygon Teulu ac o bosibl eich Adran Achosion Brys yn eich ysbyty lleol eich cyfeirio at wasanaethau cyffuriau arbenigol yn ogystal â gwasanaethau meddygol cyffredinol, gwybodaeth a chyngor yn aml mewn partneriaeth ag asiantaeth cyffuriau neu Uned Dibyniaeth ar Gyffuriau.

Rhieni a pherthnasau eraill

Mae asiantaethau cyffuriau hefyd yn darparu llawer o gyngor a chefnogaeth i rieni pobl sy'n defnyddio'r cyffuriau hyn. Gall llawer o asiantaethau stryd gynnig grwpiau cefnogi neu gwnsela i aelodau teuluoedd, partneriaid ac ati.

Cuddio
Ffôn di-dal:
Neu tecstiwch DAN i: