Gabapentin
gabapentin- Nerontin
- Lyrica
- Gabbies
- Gabby
- Gaba
- Bud Lite
- Bud
- Pregabalin
- Pregs
Enwau Gwyddonol: Gabapentin: 2-[1-(aminomethyl)cyclohexyl]acetic acid
Enwau Generig: Neurontin (Gabapentin)

Effeithiau A Ddymunir:
Dedwyddwch, mwy cymdeithasol, llonyddwch, ymlacio ac anterth tebyg i ganabis. Fodd bynnag, mae rhai defnyddwyr wedi adrodd bod sniffian gabapentin yn gallu bod yn debyg i gymryd symbylydd. Bydd effeithiau dedwyddwch pregabalin yn diflannu wrth ei ddefnyddio am gyfnod estynedig.Sgîl Effeithiau:
Chwysu a theimlo'n sâl, gwynt, rhwymedd neu ddolur rhydd, rheolaeth wael dros gyhyrau ac aflonyddwch gweledol. Mae rhaid defnyddwyr wedi adrodd am yr effeithiau llai cyffredin canlynol: chwydd yn y dwylo a thraed, cur pen, meddyliau abnormal, meddyliau o hunanladdiad, diffyg anadl, poen yn y frest, briwiau yn y geg, oerni, teimlo'n sâl, peswch, cryndod a symptomau oerni eraill.Tymor Hir:
Diffyg cwsg, cynnydd mewn pwysau. Dibyniaeth - gall stopio'n ddisymwth achosi symptomau ymgilio, gan gynnwys diffyg cwsg, teimlo'n sâl, cur pen neu ddolur rhydd. Gall Pregabalin hefyd achosi rhithweledigaethau, problemau calon (gan gynnwys methiant y galon), iselder, bod yn groen denau a phyliau panig. Mae defnyddio'r cyffuriau hyn wedi arwain at neu'n gysylltiedig â marwolaethau.Tymor Byr:
Cysglyd, ansicr a diffyg cydlyniad corfforol, trwsgl ac aflonyddwch gweledol. Gall camddefnyddio Pregabalin neu Gabapentin fod yn ffactor risg ar gyfer gorddos, yn enwedig os cânt eu defnyddio ar y cyd ag alcohol, opiadau a chyffuriau tawelu'r system nerfau canolog eraill. Mae Gabapentin yn farwol mewn gorddos, ac nid oes gwrthgyffur iddo.Rhieni a pherthnasau eraill
Mae asiantaethau cyffuriau hefyd yn darparu llawer o gyngor a chefnogaeth i rieni pobl sy'n defnyddio'r cyffuriau hyn. Gall llawer o asiantaethau stryd gynnig grwpiau cefnogi neu gwnsela i aelodau teuluoedd, partneriaid ac ati.