Khat
khat- Arabian Tea
- Chat
- Cat
- Quat
- Catha Edulis
Enwau Gwyddonol: Catha edulis o'r teulu Celastraceae.
Enwau Generig: Catha Edulis
Effeithiau A Ddymunir:
- Siaradus
- Ewfforia ysgafn a chyffro
- Teimlad o fod yn effro, cyffro
- Mwy o libido.
Sgîl Effeithiau:
- Methu cysgu
- Diffyg awydd bwyd
- Ceg sych
- Gorfywiogrwydd
- Canhwyllau'r llygaid ar led
- Rhwymedd
- Cadw wrin.
Tymor Hir:
Gall gor-ddefnydd achosi paranoia, anhunedd, colli pwysau ac mewn dognau uchel yn aml gall sbarduno adweithiau seicotig a gwaethygu problemau iechyd meddwl. Gall niweidio'r afu. Fel unrhyw gyffur, gall defnydd hirdymor arwain at ddibyniaeth a chwantau seicolegol pan ddaw'r defnydd i ben.Tymor Byr:
Gall cnoi yn aml achosi niwed i ddannedd a deintgig, a phroblemau gên. Gall cnoi mewn lleoliadau anhylan arwain at broblemau iechyd.Rhieni a pherthnasau eraill
Mae asiantaethau cyffuriau hefyd yn darparu llawer o gyngor a chefnogaeth i rieni pobl sy'n defnyddio'r cyffuriau hyn. Gall llawer o asiantaethau stryd gynnig grwpiau cefnogi neu gwnsela i aelodau teuluoedd, partneriaid ac ati.