Lisdexamfetamine

lisdexamfetamine
  • Lisdexamfetamine Dimesylate

Cyffuriau A i Y

Enwau Gwyddonol: L-lysine-d-amphetamine

Enwau Generig: Elvanse

An example of what Lisdexamfetamine looks like
Capsiwlau 30mg, 50mg a 70mg.

Effeithiau A Ddymunir:

Tebyg i amffetaminau a dexamphetamine: effröwch, egni, dedwyddwch, gwell canolbwyntiad a gwell perfformiad.

Sgîl Effeithiau:

Mae gan Lisdexamfetamine y posibilrwydd o ddyblygu'r niweidiau corfforol a chymdeithasol sy'n gysylltiedig ag amffetaminau, gan gynnwys diffyg cwsg, pendro, cur pen, curiad calon cyflym a gorbwysedd, dolur rhydd a theimlo'n sâl.

Tymor Hir:

Problemau cysgu, pryder, dibyniaeth seicolegol

Tymor Byr:

Mae anorecsia, confylsiynau, trawiad ar y galon, strôc a marwolaeth wedi'u hadrodd.
Mae Lisdexamfetamine ac amffetaminau eraill yn symbylwyr. Fodd bynnag, wrth ei ddefnyddio fel meddyginiaeth ar gyfer trin ADHD, mae Lisdexamfetamine yn cael ei ragnodi ar ddosau sy'n effeithio i'r gwrthwyneb. Wrth ei gymryd drwy'r geg, mae Lisdexamfetamine yn trosi i fod yn dexamphetamine, cyffur Dosbarth B.
Cynhyrchir y feddyginiaeth ar ffurf capsiwl, felly fe'i llyncir.
Dim.
Defnyddir Lisdexamfetamine i drin anhwylder gorfywiogrwydd diffyg canolbwyntio (ADHD).
Wedi'i ddargyfeirio o gynhyrchwyr, fferyllfeydd, meddygon teulu neu ei wneud mewn labordai dirgel ym Mhrydain a llefydd eraill a'i ddosbarthu drwy'r farchnad cyffuriau anghyfreithlon.
Mae 'asiantaethau stryd' neu brosiectau, (a elwir weithiau yn wasanaethau cyffuriau cymunedol neu dimau cyffuriau cymunedol) ar gael yn y rhan fwyaf o ardaloedd y DU, sy'n cynnig ystod o wasanaethau yn cynnwys gwybodaeth a chyngor, cwnsela, cyfnewid nodwyddau ac weithiau grwpiau cefnogi a therapïau cyflenwol fel aciwbigo. Mae'r cynnydd mewn deunydd o symbylydd wedi arwain at rai asiantaethau'n cynnig gwasanaethau arbennig megis cwnsela arbenigol, therapi ymddygiad gwybyddol, aciwbigo a therapïau amgen eraill a rhagnodi gwrthiselydd ac atgyfeiriadau posibl i adsefydlu preswyl. Mae gan rai gwasanaethau oriau gwaith estynedig ac mae rhai'n cynnig cefnogaeth ar benwythnosau. Gall meddygon teulu ac o bosibl yr adran achosion brys yn yr ysbyty lleol atgyfeirio i wasanaethau arbenigol cyffuriau yn ogystal â gwasanaethau meddygol cyffredinol, gwybodaeth a chyngor, yn aml mewn partneriaeth ag asiantaeth cyffuriau neu Uned Dibyniaeth ar Gyffuriau.

Rhieni a pherthnasau eraill

Mae asiantaethau cyffuriau hefyd yn darparu llawer o gyngor a chefnogaeth i rieni pobl sy'n defnyddio'r cyffuriau hyn. Gall llawer o asiantaethau stryd gynnig grwpiau cefnogi neu gwnsela i aelodau teuluoedd, partneriaid ac ati.

Cuddio
Ffôn di-dal:
Neu tecstiwch DAN i: