LSD
lsd- Flying Keys
- Batman
- Strawberries
- Strawbs
- Cardboard
- Blotters
- Trips
- Acid
- LSD
- Lyserge
- Lysergic Acid Diethylamide
- Smileys
Enwau Gwyddonol: Lysergic Acid Diethylamide
Enwau Generig: Lyserge

Effeithiau A Ddymunir:
Rhithwelediadau, doniolwch. Gall effeithiau seicolegol LSD (cyfeirir atynt fel 'trip') fod yn anrhagweladwy ac ar hap, oherwydd byddant yn amrywio'n fawr o un i'r llall, yn ddibynnol ar ffactorau megis profiad blaenorol, cyflwr meddwl ac amgylchedd, yn ogystal â chryfder dos.Sgîl Effeithiau:
Ffwndro, dryswch, methu cydlynu'r corff, afluniad amser a lle.Tymor Hir:
Rhyddhau neu sbarduno problemau seicolegol sylfaenol, ôl-fflachiadau.Tymor Byr:
Damweiniau, pryder, pryder emosiynol neu 'trip drwg'. Mae trip drwg yn cyfeirio at brofiad rhithbeiriol ysgytiol a all achosi i ddefnyddwyr i deimlo'n bryderus iawn a dan fygythiad. Oherwydd bod profiad LSD yn gallu para rhwng 6-12 awr - yn ddibynnol ar y dos, goddefedd, pwysau'r corff ac oed - gall hyn deimlo fel profiad amhleserus hir.Mae'n rhad (oddeutu £1-£5 yr un), hawdd i'w guddio a'i ddefnyddio.
Rhieni a pherthnasau eraill
Mae asiantaethau cyffuriau hefyd yn darparu llawer o gyngor a chefnogaeth i rieni pobl sy'n defnyddio'r cyffuriau hyn. Gall llawer o asiantaethau stryd gynnig grwpiau cefnogi neu gwnsela i aelodau teuluoedd, partneriaid ac ati.