Magic Mushrooms
magic-mushrooms- Liberties
- Liberty Caps
- Magics
- Mushies
- Shrooms
- Psilocybe Semilanceata
Enwau Gwyddonol: Psilocybe Semilanceata
Enwau Generig: Liberty Cap

Effeithiau A Ddymunir:
Tebyg i LSD, h.y. rhithweledigaethau a doniolwch - ond yn para'n llai, 3-7 awr yn ddibynnol ar faint a gymerir.Sgîl Effeithiau:
Ffwndro, dryswch, methu cydlynu'r corff, teimlo'n sâl afluniad amser a lle, pendro. Rhithbeiriau yn anrhagweladwy a goddrychol eu natur a gall symptomau amrywioRisgiau tymor byr
Damweiniau tra dan ddylanwad, pryder, gofid emosiynol, Gwenwyno
Effaith ddymunol
Rhithweledigaethau a doniolwch - ond yn para'n llai, 3-7 awr yn ddibynnol ar faint a gymerir.
Risgiau tymor hir
Risg o sbarduno problemau seicolegol sylfaenol. Ddim yn gorfforol gaethiwus, gallu creu cynnydd dros dro mewn goddefedd.
Tymor Hir:
Fel pob sylwedd rhithbeiriol, mae rhywfaint o risg o sbarduno problemau seicolegol sylfaenol. Ddim yn gorfforol gaethiwus, ond maen nhw'n gallu creu cynnydd dros dro mewn goddefedd.Tymor Byr:
Damweiniau tra dan ddylanwad, pryder, gofid emosiynol (h.y. trip drwg). Gwenwyno, drwy hel math mwy gwenwynig o fadarch yn ddamweiniol.Rhieni a pherthnasau eraill
Mae asiantaethau cyffuriau hefyd yn darparu llawer o gyngor a chefnogaeth i rieni pobl sy'n defnyddio'r cyffuriau hyn. Gall llawer o asiantaethau stryd gynnig grwpiau cefnogi neu gwnsela i aelodau teuluoedd, partneriaid ac ati.