Meddyginiaethau ADHD

adhd-medications
  • Lisdecsamffetamin a Decsamffetamin (decstroamffetamin)
  • Methylffenidat

Cyffuriau A i Y

Enwau Gwyddonol: Methylffenidat, Lisdecsamffetamin a Decsamffetamin (decstroamffetamin)

Enwau Generig:  Methylffenidat (Ritalin, Metyrol); Lisdecsamffetamin (Elvanse); Decsamffetamin (Amfexa, Dexedrine). Enwau Generig: Meddyginiaethau ADHD, symbylyddion.

An example of what Meddyginiaethau ADHD looks like
Methylffenidat, lisdecsamffetamin (sy'n troi'n decstroamffetamin yn y corff) a decsamffetamin (a elwir hefyd yn decstroamffetamin) yw tri o'r meddyginiaethau presgripsiwn a ddefnyddir i drin Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd (ADHD) mewn plant. Maent ar gael fel tabledi, pils neu hydoddiant a lyncir. Mae pob un o'r cyffuriau hyn yn symbylyddion, ac maent wedi'u camddefnyddio fel cyffuriau stryd.

Effeithiau A Ddymunir:

Mae'r effeithiau a ddymunir yn debyg i effeithiau amffetaminau:
  • Bywiogrwydd
  • Egni
  • Ewfforia
  • Canolbwyntio a pherfformio’n well.

Sgîl Effeithiau:

  • Llai o archwaeth.
  • Ymddygiad ymosodol
  • Syrthni
  • Pendro
  • Cur pen
  • Dolur rhydd
  • Cyfog a chwydu.
  • Gall Methylffenidat achosi cynnydd sylweddol o ran awydd rhywiol - ‘gor-rywioldeb’ - sy'n gryfach beth bynnag yn sgil ADHD.

Tymor Hir:

  • Problemau cysgu
  • Gorbryder
  • Gall achosi neu waethygu seicosis
  • Caethiwed seicolegol

Tymor Byr:

  • Anorecsia
  • Confylsiynau
  • Trawiad ar y galon
  • Strôc
  • Gwyddys am enghreifftiau orddosau a marwolaeth yn sgil y cyffur
Symbylyddion y brif system nerfol.
Cynhyrchir y meddyginiaethau hyn ar ffurf tabledi, pils neu doddiant a gymerir trwy'r geg, felly cânt eu llyncu os cymerir hwy yn unol â'r presgripsiwn. Fel cyffuriau stryd, cymerir dosys sy'n gryfach na dosys therapiwtig, neu defnyddir hwy mewn ffyrdd eraill, e.e. cnoi, sniffian neu chwistrellu.
Dim.
Defnyddir pob un i drin Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd (ADHD), ond gellir eu defnyddio at ddibenion meddygol eraill?
Cânt eu hailgyfeirio o fusnesau gwneuthurwyr, fferyllfeydd a phractisau meddygon teulu, neu maent wedi cael eu cynhyrchu mewn ystafelloedd ymolchi neu labordai dirgel.
Mae 'asiantaethau stryd' neu brosiectau, (a elwir weithiau yn wasanaethau cyffuriau cymunedol neu dimau cyffuriau cymunedol) ar gael yn y rhan fwyaf o ardaloedd y DU, sy'n cynnig ystod o wasanaethau yn cynnwys gwybodaeth a chyngor, cwnsela, cyfnewid nodwyddau ac weithiau grwpiau cefnogi a therapïau cyflenwol fel aciwbigo. Mae'r cynnydd mewn deunydd o symbylydd wedi arwain at rai asiantaethau'n cynnig gwasanaethau arbennig megis cwnsela arbenigol, therapi ymddygiad gwybyddol, aciwbigo a therapïau amgen eraill a rhagnodi gwrthiselydd ac atgyfeiriadau posibl i adsefydlu preswyl. Mae gan rai gwasanaethau oriau gwaith estynedig ac mae rhai'n cynnig cefnogaeth ar benwythnosau. Gall meddygon teulu ac o bosibl yr adran achosion brys yn yr ysbyty lleol atgyfeirio i wasanaethau arbenigol cyffuriau yn ogystal â gwasanaethau meddygol cyffredinol, gwybodaeth a chyngor, yn aml mewn partneriaeth ag asiantaeth cyffuriau neu Uned Dibyniaeth ar Gyffuriau.

Rhieni a pherthnasau eraill

Mae asiantaethau cyffuriau hefyd yn darparu llawer o gyngor a chefnogaeth i rieni pobl sy'n defnyddio'r cyffuriau hyn. Gall llawer o asiantaethau stryd gynnig grwpiau cefnogi neu gwnsela i aelodau teuluoedd, partneriaid ac ati.

Cuddio
Ffôn di-dal: