Meffedron
mephedrone- MC
- Meth
- Drone
- Bubble
- Bolt
- MCAT
- M-Cat
- Meow Meow
- Meow
- 4-MMC
Enwau Gwyddonol: (RS)-2-methylamino-1-(4-methylphenyl)propan-1-one Also known as: 4 methylmethcathinone, 4-MMC
Enwau Generig: Meffedron Peidiwch â'i ffwndro gyda 'Methedrone' (4-methoxymethcathinone) neu 'Methylon' (bk-MDMA), neu Methadon' (opioid synthetig).

Effeithiau A Ddymunir:
Bydd defnyddwyr yn cymharu'r effeithiau'n aml i fod yn debyg i ecstasi, cocên neu amffetaminau (sbîd). Cyffro, dedwyddwch, effröwch a siaradus. Un o brif nodweddion meffedron yw'r cymhelliant cryf i gymryd dos arall.Sgîl Effeithiau:
Teimlo'n sâl, paranoia a phryder. Crychguriadau, teimlo'n chwil, pendro, poen a chwydd yn y trwyn a'r gwddf. Brech, newid anghyffyrddus mewn gwres corfforol, arogl abnormal o'r corff, crensian dannedd, cyhyrau'n plycio. Diffyg cwsg, canolbwyntio gwael, colli cof tymor byr, problemau cylchrediad y gwaed. Goddefiad yn adeiladu'n sydyn, felly mae'r dymuniad i gymryd mwy a mwy yn cynyddu. Gall ôl-effeithiau megis anhunedd bara am sawl awr neu ddiwrnodau.Tymor Hir:
Ni wyddom fawr ddim am effeithiau tymor hir y cyffur oherwydd yr hanes byr o'i ddefnyddio. Fodd bynnag, cafwyd adroddiadau o fasgyfyngiad (pibellau gwaed yn culhau) gyda dosau ailadroddol, gan gynnwys symptomau canolig i ddifrifol o binnau bach yn y breichiau, dwylo, coesau a thraed gyda'r risg posibl o niwed i'r galon. Cur pen, penysgafnder a newid lliw'r croen anarferol. Niwed i du mewn y trwyn os yw'n cael ei sniffian; risgiau i iechyd meddwl megis iselder, meddyliau o hunanladdiad a seicosis. Bu nifer o farwolaethau yn y DU sy'n gysylltiedig â meffedron. Mae cymysgu cyffuriau megis meffedron a Ketamine neu meffedron gyda amffetamin yn cynyddu'r risg.Tymor Byr:
Rhieni a pherthnasau eraill
Mae asiantaethau cyffuriau hefyd yn darparu llawer o gyngor a chefnogaeth i rieni pobl sy'n defnyddio'r cyffuriau hyn. Gall llawer o asiantaethau stryd gynnig grwpiau cefnogi neu gwnsela i aelodau teuluoedd, partneriaid ac ati.