Methamffetamin crisial
crystal-methamphetamine- Tina
- T
- Glass
- Crystal meth
- Crystal
- Meth
- Ice
Enwau Gwyddonol: n-methyl-1-ffenyl-propan-2-amin
Enwau Generig: Methamffetamin Crisial, Methylamffetamin, Desocsiffedrin.
Effeithiau A Ddymunir:
- Mwy o fywiogrwydd
- Canolbwyntio
- Egni
- Ewfforia
- Cryfhau hunan-barch
- Atal archwaeth
- Cynyddu libido.
Ystyrir fod methamffetamin yn symbylydd llawer iawn cryfach na amffetamin syllfad, oherwydd gall yr effeithiau bara hyd at ddwywaith yn hirach, ac mae'r effeithiau hefyd yn fwy seicolegol ac yn llai 'corfforol' eu natur. Honnir yn aml mai hwn yw'r symbylydd mwyaf 'secsi'. Dywed rhai dynion fod methamffetamin yn cynhyrchu orgasmau a phrofiadau rhywiol mwy grymus. Mae rhai yn honni y byddant yn cael codiadau gwell, ond bydd eraill yn ei chael hi'n anodd cael neu gynnal codiad arferol.
Sgîl Effeithiau:
Mae'r mân sgil effeithiau yn cynnwys:- Golwg aneglur
- Ceg, gwefusau a llygaid sych
- Tensiwn yn y cyhyrau.
- Mae'r sgil effeithiau yn cynnwys:
- Cynnydd yng nghyfradd curiadau'r galon, pwysedd y gwaed a thymheredd y corff.
- Paranoia.
Teimlir y canlynol ar ôl i'r effeithiau ddiflannu:
- Blinder
- Dryswch
- Bod yn llwglyd
- Iselder
- Hwyliau gwael
- Diffyg canolbwyntio
- Hunandosturi dwys iawn.
Mae'r sgil effeithiau ar y corff yn cynnwys:
- Poen yn y safnau
- Sensitifrwydd i olau
- Gwefusau wedi cracio
- Croen sych neu blorog
- Anhwylder ar yr ystumog
- Pendro
- Cyhyrau poenus.
Yn dilyn sesiwn sy'n para sawl diwrnod, gall defnyddwyr fynd i gysgu yn ddisymwth a pharhau i gysgu am 24 awr neu ragor.
- Bydd symbylyddion yn cynyddu tymheredd eich corff. Gall trawiad gwres fod yn angeuol, yn enwedig os byddwch yn dawnsio mewn clwb poeth, ond gall ddigwydd mewn mannau eraill hefyd. Sipiwch ddŵr yn rheolaidd (tua pheint bob awr) ac oerwch eich corff trwy orffwys, dabio dŵr claear ar eich wyneb a chael rhywfaint o awyr iach.
- Efallai y gwnaiff rinsio eich trwyn â dŵr ar ôl sniffian y cyffur leihau'r niwed i rannau mewnol eich trwyn. Ni ddylid rhannu gwellt nac arian papur oherwydd gall hyn ledaenu firysau a gludir yn y gwaed (Hep B, Hep C, HIV).
- Bydd rhannu unrhyw offer yn cynyddu'r risg o ledaenu firysau a gludir yn y gwaed. Mae offer chwistrellu glân a chyngor ynghylch chwistrellu'n fwy diogel ar gael gan gyfnewidfeydd nodwyddau.
- Bydd y rhan fwyaf o bobl yn canfod bod paranoia sy'n cael ei sbarduno gan symbylyddion yn diflannu'n raddol ar ôl iddynt roi'r gorau i'w defnyddio. Fel arfer, bydd seicosis sy'n cael ei ysgogi gan gyffuriau yn gyflwr byrhoedlog, ac mae'n llawer haws ei drin nag anhwylderau seicotig eraill. Fodd bynnag, os yw eich arferion defnyddio cyffuriau yn peri problem i chi erbyn hyn neu os ydych yn poeni am eich iechyd meddwl, mae gwasanaethau anfeirniadol sy'n gyfrinachol ac yn rhad ac am ddim ar gael i'ch helpu.
- Mae'n fuddiol dod i gytundeb gyda phobl sy'n defnyddio cyffuriau gyda chi i ofalu am eich gilydd yn achos argyfwng a ffonio am ambiwlans. Gofalwch am eraill fel y byddech chi am i eraill ofalu amdanoch chi.
- Gall defnyddio tabledi cysgu, alcohol neu gyffuriau eraill i fynd i gysgu neu osgoi'r profiad negyddol sy'n digwydd ar ôl i effeithiau cyffuriau ddiflannu dod yn arferiad, ac yn sgil hynny, daw cyffuriau yn ganolbwynt i'ch bywyd.
- Cofiwch gadw at arferion rhyw mwy diogel a sicrhewch bod eraill yn gwybod beth yn union yw eich terfynau.
Ystyrir mai ysmygu methamffetamin yw'r dull o'i gymryd sy'n ysgogi'r teimladau mwyaf perlesmeiriol a dyma'r dull sy'n fwyaf tebygol o ddod yn arferiad. Os byddwch yn profi unrhyw broblemau, mae help ar gael i chi.
Tymor Hir:
- Fel yn achos symbylyddion grymus eraill, gall methamffetamin achosi salwch seicotig (rhithdybiau, paranoia, rhithweledigaethau, clywed 'lleisiau' ac ati).
- Gall iselder (meddyliau hunanladdol ac ati) a chyfnodau o ewfforia ddigwydd bob yn ail.
- Gall defnydd trwm o'r cyffur, neu ddefnydd cymedrol hirdymor, niweidio'r system cardiofasgwlaidd (y galon), y system imwinedd a/neu'r brif system nerfol.
- Gallai straen cyson ar y system gardiofasgwlaidd achosi pwysedd gwaed uchel, rhythm calon anghyson, a hyd yn oed strôc.
- Mae'r potensial i gam-drin meth crisial a dod yn gaeth iddo yn uchel iawn.
Tymor Byr:
- Ceir risg o gael trawiad ar y galon neu strôc wrth ddefnyddio unrhyw symbylydd grymus, ond mae gorddosau angheuol yn sgil defnyddio methamffetamin yn weddol brin.
- Gall methamffetamin ryngweithio â rhai mathau o feddyginiaethau i drin HIV, gan gynyddu cyfanswm y meth yn llif y gwaed i lefel sy'n beryglus. Bydd hyn yn cynyddu'r risg o gael gorddos neu niwed difrifol arall.
- Ceir risgiau penodol yn sgil chwistrellu meth crisial, er enghraifft, niwed i'r gwythiennau a'r meinweoedd meddal, a risgiau o ddal firysau a gludir yn y gwaed os rhennir offer.
- Gall yr hyn a elwir yn 'booty bumping' achosi llid a niwed i'r meinweoedd a chynyddu'r risg o ddal Clefydau a Drosglwyddir yn Rhywiol.
- Bydd rhai dynion yn cael trafferth i gynnal eu terfynau arferol oherwydd bydd yr awydd i gael rhyw yn gryf iawn a gall rhyw mwy diogel ymddangos yn ystyriaeth lai pwysig ar y pryd.
Mae methamffetamin yn symbylydd a geir fel powdwr gwyn neu lwydwyn (crisialau wedi'u malu'n fân), crisialau gwyn neu ddi-liw (yr un maint â chrisialau cocên), neu dabledi. Gall meth crisial fod yn grisialau sy'n mesur sawl modfedd o ran eu hyd, ac o ran eu lliwiau, maent yn amrywio o rai clir i rai gwyn glasaidd. Mae ffurf meth crisial yn debyg i ffurf crac cocên. Mae'n cael ei ddefnyddio'n bennaf yn y DU gan bobl sy'n defnyddio cyffuriau fel rhan o weithgarwch rhywiol.
- Fel arfer, caiff meth crisial ei ysmygu mewn pibell wydr oherwydd fe wnaiff y crisialau hydoddi mewn dŵr (a thoddi os gwnewch chi afael ynddynt) felly ni ellir eu hysmygu mewn pibell ddŵr.
- Gellir sniffian y powdwr ar ôl malu'r crisialau yn fân.
- Gellir ei gymysgu â dŵr a'i chwistrellu ('slamming' yw'r term am hyn).
- Weithiau, caiff meth crisial ei gymysgu â dŵr a'i chwistrellu i mewn i'r corff trwy'r anws (gelwir hyn yn 'booty bumping').
Os yw'n cael ei chwistrellu: chwistrell a nodwydd, dŵr, rhwymyn tynhau.
Os yw'n cael ei ysmygu: matsys a ffoil.
Rhieni a pherthnasau eraill
Mae asiantaethau cyffuriau hefyd yn darparu llawer o gyngor a chefnogaeth i rieni pobl sy'n defnyddio'r cyffuriau hyn. Gall llawer o asiantaethau stryd gynnig grwpiau cefnogi neu gwnsela i aelodau teuluoedd, partneriaid ac ati.