Methoxetamine
methoxetamine- Rhino Ket
- Roflcoptr
- Mexxy
- MXE
Enwau Gwyddonol: 3-MeO-2-Oxo-PCE (RS)2-(3-methoxyphenyl)-2-(ethylamino)cyclohexanone
Enwau Generig: Methoxetamine Hydrochloride

Effeithiau A Ddymunir:
Defnyddwyr yn adrodd am deimlad o ddedwyddwch, cynhesrwydd a datodiad. Teimlo'n ddigyffro a llai o bryder. Adroddir ei fod yn cael effeithiau dymunol ac annymunedig tebyg i Ketamine, ond mae rhai defnyddwyr wedi adrodd bod yr effeithiau annymunedig yn para'n hirach nac ar Ketamine.Sgîl Effeithiau:
Bydd yr effeithiau'n cymryd tua 10 munud i chwarter awr fel arfer i fod yn amlwg, ond weithiau gall gymryd hirach, awr i awr a hanner. Mae'r oediad hwn yn golygu bydd rhai defnyddwyr yn credu nad ydynt wedi cymryd digon, felly byddant yn cymryd dos arall, gan arwain at gymryd gormod a phrofi effeithiau annymunol. Yn ogystal â hyn, gall y sgil effeithiau gynnwys pryder, cydlyniad gwael, lleferydd aneglur, symudiadau llygaid anrheoledig, simsan wrth gerdded a diffyg cydbwysedd, dryswch, methu cysgu a blacowts.Tymor Hir:
Ychydig a wyddom am wenwynder posibl methoxetamine, ond mae pobl wedi gorfod mynd i'r ysbyty yn UDA a'r DU ar ôl ei ddefnyddio'n adloniadol. Mae potensial iddo achosi dibyniaeth seicolegol.Tymor Byr:
Mae effeithiau datgysylltiol MXE yn gwneud i ddefnyddwyr deimlo datodiad o'r corff a'r amgylchedd, ond gall hyn roi defnyddwyr mewn perygl o ddamweiniau neu gael eu brifo gan eraill. Wrth gymryd dosau uwch, gall defnyddwyr brofi cyflwr catatonig, sy'n ffurf enbyd o ddatgysylltiad, lle bydd y defnyddiwr yn effro ond yn llonydd ac yn anymatebol. Bydd unigolion yn y cyflwr hwn yn gwneud ychydig iawn o gyswllt llygad ag eraill, yn hollol fud a disymud am gyfnodau hir. Hefyd ail-ddosio a gorddos cymelledig.Rhieni a pherthnasau eraill
Mae asiantaethau cyffuriau hefyd yn darparu llawer o gyngor a chefnogaeth i rieni pobl sy'n defnyddio'r cyffuriau hyn. Gall llawer o asiantaethau stryd gynnig grwpiau cefnogi neu gwnsela i aelodau teuluoedd, partneriaid ac ati.