‘Monkey Dust’ / Cathinonau Pyrrolidino

monkey-dust-pyrrolidino-cathinones

Cyffuriau A i Y

Enwau Gwyddonol: Mae Cathinonau Pyrrolidino yn is-grŵp o gathinonau synthetig sy’n deillio o’r cyffur pyrovalerone. Mae Cathinonau Pyrrolidino yn cynnwys:

  • Pyrovalerone;
  • 3,4-methylenedioxy-alpha-pyrrolidinohexanophenone (MDPHP, ‘Monkey Dust’ yw’r llysenw );
  • alpha-Pyrrolidinohexanophenone (alpha-PHP);
  • alpha-pyrrolidinopentiophenone (alpha-PVP, "flakka" yw’r llysenw);
  • 3,4-Methylenedioxypyrovalerone (MDPV).

Enwau Generig: Gelwir cathinonau pyrrolidino hefyd yn pyrovalerones a deilliadau alpha-pyrrolidinophenone.

Effeithiau A Ddymunir:

Mae’r effeithiau’n dibynnu ar y dos a’r math o gathinonau pyrrolidino a ddefnyddir ond credir eu bod yn debyg i gyffuriau symbylydd cryf eraill.

  • Egni
  • Hyder
  • Lles, ewfforia
  • Cyffro.

Mae pobl ddigartref yn aml yn cymryd cyffuriau i ymdopi â phroblemau iechyd meddwl, trawma’r gorffennol ac i geisio anghofio am amgylchiadau presennol eu bywyd. Mae cyffur fel ‘Monkey Dust’ hefyd yn caniatáu i bobl aros yn effro ac yn wyliadwrus o beryglon bywyd ar y stryd.

Sgîl Effeithiau:

Mae’r sgil-effeithiau’n dibynnu ar faint y dos, y dull o’i gymryd a’r math o gathinonau pyrrolidino. Credir eu bod yn fras, yn debyg i symbylyddion eraill, fel curiad calon cyflym, chwysu, llai o archwaeth bwyd, cau’r genau’n dynn, cannwyll y llygaid yn ymledu, paranoia, pryder, newid mewn hwyliau.

Mae MDPHP ‘Monkey Dust’ wedi’i gysylltu â sgil-effeithiau gan gynnwys poen yn y frest, anawsterau anadlu, gorsensitifrwydd i gyffyrddiad, pryder, pendro, pwysedd gwaed uchel, ymddygiad ymosodol/seicosis a rhithwelediadau a thrawiadau (ffitiau). Cofnodwyd ymddygiadau treisgar a oedd weithiau’n gofyn am fesurau cyfyngu mewn llai na 10% o achosion ysbyty.
  • Gall ‘Monkey Dust’ gynnwys nifer o wahanol gathinonau pyrrolidino neu gyffuriau eraill, ac ar wahanol gryfderau. Cyn i chi gymryd unrhyw swp newydd, gofynnwch i rywun arall a allai fod wedi cymryd yr un swp, am gryfder a hyd yr effeithiau.
  • Dechreuwch gyda dos bach i’w brofi ac arhoswch o leiaf ddwy awr cyn cymryd mwy er mwyn lleihau’r risg o orddos.
  • Peidiwch â’i ddefnyddio ar eich pen eich hun gan na fydd neb i’ch helpu os byddwch yn cymryd gorddos. Gofalwch am eich ffrindiau yn yr un ffordd ag yr hoffech chi iddyn nhw ofalu amdanoch chi.
  • Bydd cymysgu ‘Monkey Dust’ â chyffuriau eraill neu alcohol yn cynyddu eich risg o orddos.
  • Os ydych chi’n amau bod rhywun wedi cymryd gorddos, defnyddiwch nalocson os oes gennych chi ef. Nid yw nalocson yn gweithio ar symbylyddion fel ‘Monkey Dust’ ond bydd yn gwrthdroi unrhyw gyffuriau opioid fel heroin neu fethadon y gallai’r person fod wedi eu cymryd hefyd. Os oes gennych chi unrhyw amheuon, defnyddiwch nalocson; os nad ydyn nhw wedi cymryd opioidau, ni fydd nalocson yn eu niweidio; os ydyn nhw wedi cymryd opioidau, gallai achub eu bywyd.
  • Os bydd rhywun yn llewygu neu’n syrthio i gysgu ac na allwch chi eu deffro, rhowch nhw yn y safle adfer. Bydd hyn yn eu hatal rhag tagu ar eu cyfog. Ffoniwch am ambiwlans.
  • Os oes gan rywun boenau yn y frest, rhowch nhw i eistedd a ffoniwch am ambiwlans.
  • Os yw rhywun yn cael trafferth anadlu, gwnewch yn siŵr nad yw eu llwybr anadlu wedi’i rwystro. Ffoniwch am ambiwlans.
  • Os yw rhywun yn cael ffit (trawiad), peidiwch â’u dal i lawr. Os ydyn nhw yng nghanol y ffordd neu yn rhywle peryglus, symudwch nhw. Ffoniwch am ambiwlans.
  • Cymerwch seibiant rhwng sesiynau ‘Monkey Dust’. Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael digon o gwsg, yfwch ddigon o ddŵr a bwytewch yn dda er mwyn rhoi amser i’ch corff wella.
  • Os daw defnyddio ‘Monkey Dust’ yn broblem, mae cymorth ar gael gan eich gwasanaeth triniaeth lleol.

Tymor Hir:

Mae’r risgiau tymor hir yn dibynnu ar faint y dos, y dull o’i gymryd a’r math o gathinonau pyrrolidino. Er nad ydym yn gwybod llawer am risgiau hirdymor llawer o’r cathinonau pyrrolidino, credir eu bod yn fras, yn debyg i’r risgiau sy’n gysylltiedig â symbylyddion cryf eraill, megis iselder, anniddigrwydd, dibyniaeth, paranoia a sbarduno episodau seicotig.

Tymor Byr:

Mae’r risgiau tymor byr yn dibynnu ar faint y dos a’r math o gathinonau pyrrolidino a ddefnyddir; ond credir eu bod yn fras, yn debyg i symbylyddion cryf eraill, megis paranoia, trawiad ar y galon a thrawiad gwres ac ati.

Gan fod cathinonau pyrrolidino ar y cyfan, yn gryfach na chathinonau eraill, mae’r dosau fel arfer yn is o’u cymharu â chathinonau eraill fel M-Cat. Os bydd rhywun yn bwyta cathinonau pyrrolidino â chryfder uchel megis MDPHP, heb yn wybod iddynt, mae’r potensial am niwed yn cynyddu.

Er y gallai hyn awgrymu bod cathinonau synthetig â llai o gryfder yn fwy diogel, mae hyn yn gamarweiniol. Gyda rhai cathinonau synthetig, mae llai o fwlch rhwng yr effeithiau a ddymunir a’r effeithiau gwenwynig felly, pan gymerir mwy o’r cathinonau synthetig hyn i gael yr effeithiau dymunol, maent hefyd yn cyrraedd dosau niweidiol yn gyflymach. Ychydig iawn o dystiolaeth sy’n bodoli ar effaith gwenwynig cathinonau pyrrolidino ar bobl o’i gymharu ag effaith cathinonau synthetig eraill.

Mae marwolaethau sy’n gysylltiedig â chathinonau yn aml yn cael eu priodoli i orboethi, pwysedd gwaed uchel, trawiad ar y galon a syndrom serotonin. Yn 2024, bu 21 o farwolaethau a oedd yn ymwneud â chathinonau synthetig yn unig.

Ar wahân i M-Cat, y cathinonau synthetig sydd fwyaf aml yn gysylltiedig â marwolaethau sy’n ymwneud â chyffuriau yn y DU yw MDPHP, α-PHP ac α-PVP. Mae pob un o’r rhain yn gathinonau pyrrolidino. Er y gallai hyn awgrymu bod risg uwch o farwolaeth drwy ddefnyddio cathinonau pyrrolidino, mae’r niferoedd dan sylw yn rhy fach i’w dehongli, mae marwolaethau bron bob amser yn cynnwys cyffuriau eraill a ddefnyddir ar yr un pryd a gallai’r marwolaethau fod o ganlyniad i amlder y defnydd a ffordd o fyw'r bobl sy’n eu defnyddio (â’r risgiau uwch sy’n gysylltiedig â hyn), yn hytrach na’r cyffuriau eu hunain.

Digwyddodd mwy na hanner o’r 75 o farwolaethau a oedd yn ymwneud â chathinonau synthetig a gofnodwyd rhwng 2019 a 2023, yn Swydd Stafford. Cofnodwyd bod 14 o’r 15 o farwolaethau a oedd yn ymwneud ag MDPHP yn y DU, wedi digwydd yn Swydd Stafford, ynghyd â phob un o’r 28 o farwolaethau α-PHP a 4 o’r 7 o farwolaethau α-PVP. Mae’n debyg bod y rhan fwyaf o’r rhain yn gysylltiedig â defnyddio ‘Monkey Dust’.
Symbylydd y system nerfol ganolog.

Mae cathinonau pyrrolidino yn cynnwys MDPHP , sydd yn y DU yn fwyaf cyffredin mewn cyffuriau a werthir o dan y llysenw ‘Monkey Dust’. Canfuwyd bod ‘Monkey Dust’ hefyd yn gallu cynnwys cathinonau pyrrolidino eraill fel alpha-PHP, alpha-PiHP ac alpha-PVP. Yn yr Unol Daleithiau, gelwir alpha-PVP yn ‘Flakka’.

Mae’r rhan fwyaf o gathinonau pyrrolidino yn gryf iawn o’u cymharu â chathinonau synthetig eraill neu symbylyddion eraill, gan gynnwys cocên. Defnyddir ‘Monkey Dust’ oherwydd ei fod yn llawer rhatach na chrac, ac yn para’n hirach.

Mae’r adroddiadau ynglŷn â ‘Flakka’ yn y cyfryngau yn yr Unol Daleithiau wedi bod yn orliwgar ac yn anghywir. Mae’r mythau hyn yn cynnwys adroddiadau am ganibaliaeth ar ôl cymryd ‘Flakka. Mae’r cyfryngau yn y DU hefyd wedi gorliwio adroddiadau a rhoi manylion anghywir am ‘Monkey Dust’

Yn y DU, mae defnyddio ‘Monkey Dust’ bron yn gyfan gwbl unigryw i ardal Swydd Stafford, a hynny ymhlith oedolion sydd wedi’i hallgau’n gymdeithasol ac sy’n agored i niwed, ac sy’n aml, yn byw mewn hosteli neu’n ddigartref. Mewn ardaloedd eraill o’r DU, byddai’r grŵp hwn yn fwy tebygol o fod yn defnyddio ‘spice, crac cocên neu heroin, er mae llawer o ddefnyddwyr ‘Monkey Dust’ yn Swydd Stafford hefyd yn defnyddio’r cyffuriau hyn.
Gellir cymryd ‘Monkey Dust’ dros gyfnodau byr (ychydig o ddyddiau) neu gyfnodau llawer hirach a gellir ei ddefnyddio ar ei ben ei hun neu gyda sylweddau eraill. Yn gyffredinol, fe gymerir ‘Monkey Dust’ trwy ei ysmygu, gan ddefnyddio pibell yn aml, er y gellir defnyddio ffyrdd eraill gan gynnwys ffroeni/sniffian, llyncu a chwistrellu.
Mae cathinonau pyrrolidino yn gyffuriau synthetig sy’n cael eu cynhyrchu mewn labordai, gan amlaf mewn gwledydd eraill. Gall hyn fod mewn labordai anghyfreithlon neu mewn gwledydd lle nad yw’r cyffur yn cael ei gynnwys o dan gyfreithiau cyffuriau. Gellir eu prynu gan werthwyr ar y stryd neu’n uniongyrchol dros y we/y we dywyll.
Cuddio
Ffôn di-dal: