Morffin
morphine- Miss Emma
- Morph
- Sylffad morffin
Enwau Gwyddonol: Morffin Sylffad
Enwau Generig: Opiate

Ar gyfer chwistrellu, mae morffin sylffad yn dod mewn ffiolau o hylif clir. Mae cynhyrchion chwistrellu eraill yn cynnwys Cyclimorph (sy'n cynnwys cyclizine) ac Omnopon, sy'n cynnwys y cyffur papaveretum, cymysgedd o alcaloidau opiwm. Mae Diamorphine, Oramorph, MST a morffin sylffad yn forffin yn eu gwahanol baratoadau cyffuriau.
Effeithiau A Ddymunir:
Yn debyg i heroin (heblaw am y 'rhuthr' wrth chwistrellu, nid yw morffin mor gryf), dedwyddwch, ymlaciol, llai o bryder.Sgîl Effeithiau:
Chwysu, teimlo'n sâl, chwydu, syrthni, iselder resbiradol, rhwymedd.Tymor Hir:
DibyniaethTymor Byr:
Goddefiad, gorddos.Rhieni a pherthnasau eraill
Mae asiantaethau cyffuriau hefyd yn darparu llawer o gyngor a chefnogaeth i rieni pobl sy'n defnyddio'r cyffuriau hyn. Gall llawer o asiantaethau stryd gynnig grwpiau cefnogi neu gwnsela i aelodau teuluoedd, partneriaid ac ati.