MSJ
msj- Vallies
- Scoobies
- Vera's
- Dodgies
- Blues
- Doggies
Enwau Gwyddonol: Diazepam (Valium)
Enwau Generig: Benzodiazepine - Tawelydd ysgafn

Effeithiau A Ddymunir:
Ymlacio, llai o bryder, syrthni, dedwyddwch.Sgîl Effeithiau:
Penysgafn, diffyg cydlynu, diffyg cofio difrifol, ymosodedd, syrthni, cur pen, ffwndroTymor Hir:
Gellwch fod yn gaeth (dibynnol) - symptomau diddyfnu difrifol ac os byddwch yn stopio eu cymryd yn rhy sydyn, agoraffobia, pyliau o banig, pryder difrifol. Efallai byddwch yn gwneud rhywbeth byddwch yn ei edifar yn fawr. Oherwydd y dos ym mhob tabled, ond hefyd heb wybod a oes unrhyw gemegyn arall yn y gymysgedd, mae'r risgiau yn amrywiol ac yn anhysbys.Tymor Byr:
Goddefedd, damweiniau, risg o orddos os caiff ei gyfuno ag alcohol neu gyffuriau eraill. Ni fydd defnyddwyr cyflenwadau anghyfreithiol yn gwybod cryfder yr hyn byddant yn eu cymryd ac fe allent gymryd gormod.Rhieni a pherthnasau eraill
Mae asiantaethau cyffuriau hefyd yn darparu llawer o gyngor a chefnogaeth i rieni pobl sy'n defnyddio'r cyffuriau hyn. Gall llawer o asiantaethau stryd gynnig grwpiau cefnogi neu gwnsela i aelodau teuluoedd, partneriaid ac ati.