Nalocson

naloxone
  • Naloxone

Cyffuriau A i Y

Enwau Gwyddonol: Naloxone Hydrochloride

Enwau Generig: Naloxone

An example of what Nalocson looks like
Hylif Clir. Mae Nalocson ar gael fel chwistrelliad mewngyhyrol wedi'i lenwi ymlaen llaw (Prenoxad) neu fel chwistrell trwyn (Nyxoid).
Mae cyffuriau opioid fel heroin a Methadon yn arafu eich system nerfol ganolog. Gall gorddos o opiadau arafu'r system nerfol ganolog cymaint nes bod yr ymennydd yn anghofio anadlu, a all arwain at farwolaeth. Nalocson yw’r gwrthwenwyn i orddos opioid, mae’n gweithio fel ‘gwrthwynebydd’ trwy orfodi’r opioidau oddi ar gelloedd derbyn yn yr ymennydd, sy’n gwrthdroi effeithiau gorddos opioid. Mae Nalocson yn gweithio’n am gyfnod byr, sy'n golygu y bydd ei effeithiau'n dechrau pylu ar ôl cyfnod byr a gall person fynd yn ôl i gyflwr gorddos. Mae’n hanfodol bod ambiwlans yn cael ei alw os ydych yn amau bod rhywun wedi gorddosio, hyd yn oed os ydych wedi rhoi nalocson gan y bydd angen gofal pellach arnynt.
Mae pecynnau Naloxone i fynd â nhw adref, sy'n cael eu darparu ar gyfer unigolion sydd mewn perygl o orddos o opiadau neu ar gyfer unigolion sy'n debygol o fod yn dyst i orddos o opiadau, ar ffurf pecyn i'w chwistrellu (Prenoxad) neu chwistrell drwynol (Nyxoid). Mae'r pecyn i'w chwistrellu'n cynnwys chwistrell wedi'i llenwi ymlaen llaw a chaiff ei rhoi i mewn i gyhyr, a chwistrell drwynol yw'r pecyn trwynol sy'n cael ei rhoi yn y ffroen.
Dim un
Defnyddir Naloxone yn benodol i wrthweithio iselder y system nerfau canolog a'r system resbiradol a all fygwth bywyd. Ni ddylid ei ffwndro gyda naltrexone, gwrthweithydd derbynnydd opiad, a ddefnyddir ar gyfer trin dibyniaeth yn hytrach na thrin gorddos brys.
Mae Naloxone yn deillio o Thebaine. Mae Thebaine (paramorphine) yn gemegolyn sy'n digwydd yn naturiol o opiwm, ond mae'n cael effeithiau stimiwleiddio yn hytrach na iselydd.
Mae 'asiantaethau stryd' neu brosiectau, (a elwir weithiau yn wasanaethau cyffuriau cymunedol neu dimau cyffuriau cymunedol) ar gael yn y rhan fwyaf o ardaloedd y DU, sy'n cynnig ystod o wasanaethau yn cynnwys gwybodaeth a chyngor, cwnsela, ac weithiau grwpiau cefnogi a therapïau cyflenwol fel aciwbigo. Mae gan rai gwasanaethau oriau gwaith estynedig ac mae rhai'n cynnig cefnogaeth ar benwythnosau. Os yw defnyddio'r sylwedd hwn yn dod yn broblem, gellwch chwilio am gymorth, cyngor a chwnsela gan wasanaeth yn eich ardal. Gall meddygon teulu wneud atgyfeiriadau i wasanaethau arbenigol cyffuriau. I gael disgrifiad o'r hyn y mae gwasanaethau cyffuriau gwahanol yn eu gwneud, dewiswch gwasanaethau helpu yma neu'r brif ddewislen.

Rhieni a pherthnasau eraill

Mae asiantaethau cyffuriau hefyd yn darparu llawer o gyngor a chefnogaeth i rieni pobl sy'n defnyddio'r cyffuriau hyn. Gall llawer o asiantaethau stryd gynnig grwpiau cefnogi neu gwnsela i aelodau teuluoedd, partneriaid ac ati.

Cuddio
Ffôn di-dal: