NBOMe Compounds
nbome-compounds- 25I
- 25I-NBOMe
- 2C-I-NBOMe
- Bom-25
- Smiley Paper
- 25I-NBOMe - N-Bomb
Enwau Gwyddonol: 2-(4-iodo-2,5-dimethoxyphenyl)-N-[(2-methoxyphenyl)methyl]ethanamine
Enwau Generig: 25I-NBOMe (2C-I-NBOMe, Cimbi-5)

Effeithiau A Ddymunir:
Rhithbeiriol tebyg i LSD, stimiwleiddiad meddyliol a chorfforol, dedwyddwch a rhithwelediadau gweledol a chlywol, newidiadau i ymwybyddiaeth ac afluniad i synhwyrau.Sgîl Effeithiau:
Curiad calon cyflymach, pwysedd gwaed uchel, cynnwrf, rhithwelediadau amhleserus, ffwndro, teimlo'n sâl, diffyg cwsg, paranoia a phanig. Mae rhai defnyddwyr wedi adrodd am effeithiau negyddol iawn tra'n feddw ac mewn mwy o risg o niwed yn dilyn eu defnyddio o'i gymharu â chyffuriau rhithbeiriol eraill megis LSD ayb.Tymor Hir:
Dim gwybodaeth ar hyn o bryd, ond o bosibl yn debyg i risgiau tymor hir LSD. Fel cyfansoddyn eithaf newydd, ychydig a wyddom am y risgiau neu ryngweithiad gyda chyffuriau eraillTymor Byr:
Ymosodedd, ffitiau, risg arwyddocaol o orddos - mae'r cyfansoddion hyn yn gryf iawn a dim ond ychydig bach sydd eu hangen i gael effaith, felly mae risg uchel iawn o orddos ar ffurf powdr a hylif. Adroddwyd am nifer o farwolaethau o ganlyniad i orddos a hefyd o ddamweiniau tra dan ddylanwad.Rhieni a pherthnasau eraill
Mae asiantaethau cyffuriau hefyd yn darparu llawer o gyngor a chefnogaeth i rieni pobl sy'n defnyddio'r cyffuriau hyn. Gall llawer o asiantaethau stryd gynnig grwpiau cefnogi neu gwnsela i aelodau teuluoedd, partneriaid ac ati.