New Psychoactive Substances

new-psychoactive-substances
  • Afiaith Llysieuol
  • Cyffuriau Cynllunwyr
  • Cemegolion Ymchwil
  • Afiaith Cyfreithiol
  • NPS
  • Sylweddau Seicoweithredol Newydd

Cyffuriau A i Y

An example of what New Psychoactive Substances looks like
Amrywiol - tabledi, powdr crisialog, solidau, hylifau ayb?

Effeithiau A Ddymunir:

Amrywiol. Bydd llawer o sylweddau'n effeithio'n rhithbeiriol neu fel symbylydd neu gyfuniad o'r ddau.

Sgîl Effeithiau:

Amrywiol. Gweler y sylweddau unigol am fwy o wybodaeth, os ar gael.

Tymor Hir:

Ychydig iawn o ymchwil rheoledig sydd ar gael ar gyfer y sylweddau hyn, felly ni wyddom beth yw'r sgil effeithiau a'r peryglon posibl yn iawn. Hyd yn oed os bydd sylwedd yn cael ei werthu fel 'cyfreithlon' neu 'lysieuol', nid yw'n golygu ei fod yn ddiogel i'w gymryd. Adroddwyd am farwolaethau o ganlyniad i ddefnyddio'r sylweddau hyn.

Gall risgiau gynnwys ffwndro, syrthni, paranoia, ymddygiad manig, panig, trawiad calon, coma, ffitiau a marwolaeth. Mae arbrofi gyda'r sylweddau hyn yn beryglus, oherwydd ni all neb fod yn bendant ynghylch yr hyn maen nhw'n ei gymryd neu sut byddant yn adweithio. Gweler y sylweddau unigol am fwy o wybodaeth, os ar gael.

Tymor Byr:

Gellir diffinio prif effeithiau bron iawn bob un sylwedd seicoweithredol, gan gynnwys 'afiaith cyfreithiol' gyda thri chategori: symbylyddion, iselyddion a rhithbeiriau (seicedelig).
Gellir ysmygu, eu cymryd drwy'r geg fel tabled, eu sniffian ar ffurf powdr neu chwistrellu rhai ohonynt.
Mae nifer fawr o sylweddau seicoweithredol newydd wedi dod i fod ar gael yn y 25 mlynedd ddiwethaf, wedi'u marchnata fel cyffuriau amgen diogelach a chyfreithiol i gyffuriau anghyfreithiol, ond yn dynwared eu heffeithiau. Yn aml iawn fe'u gwneir mewn labordai a'u gwerthu dros y we. Oherwydd bod nifer o gemegolion ar gael ar hyn o bryd (ac o bosibl eu cynhyrchu), mae llywodraeth yn DU wedi gwneud newidiadau i'r Ddeddf Camddefnyddio Cyffuriau mewn ymgais i ddosbarthu'r cemegolion ac unrhyw ddeilliannau ohonynt.

O ganlyniad, roedd cyflenwyr yn eu marchnata wedi'u labelu fel bwyd planhigion, crisialau bath, cemegolion ymchwil neu lanhawr pyllau dŵr, er mwyn eu cuddio o ran eu deunydd hamdden a dod dros gyfreithiau cyffuriau. Mae'n bosibl na fydd rhai sylweddau ar hyn o bryd yn gallu cael eu rheoli gan y Ddeddf Camddefnyddio Cyffuriau, ond gellir eu rheoli dan y Ddeddf Meddyginiaethau.

Mae'r enwau slang yn cynnwys: Benzofury, Bounce, Charge, Chicken Powder, Dimitri, Dr. Death, Drone, Frenzy, Ivory Wave, Killer, M-Kat, N-Bomb, Pink Ecstasy, Rave, Sparkle, Red Mitsubishi, White Magic, White Pearl, Woof-Woof, Vanilla Sky, 5-IT, 7-Up a llawer iawn mwy.

Mae cannabinoidau yn gemegolion a wneir i weithredu fel y rhan weithredol o ganabis, ac mae enwau slang yn cynnwys Spice, Black Mamba a Blue Cheese ymysg eraill.
Gall rhai ddeillio o fathau o blanhigion meddwol; gall rhai fod yn gemegolion a wneir mewn labordai. Gellir mewnforio sylweddau; eu gwerthu dros y we ac mewn rhai siopau arbenigol.
Mae 'asiantaethau stryd' neu brosiectau, (a elwir weithiau yn wasanaethau cyffuriau cymunedol neu dimau cyffuriau cymunedol) ar gael yn y rhan fwyaf o ardaloedd yn y DU, sy'n cynnig ystod o wasanaethau yn cynnwys gwybodaeth a chyngor, cwnsela, ac weithiau grwpiau cefnogi a therapïau cyflenwol fel aciwbigo. Mae gan rai gwasanaethau oriau gwaith estynedig ac mae rhai'n cynnig cefnogaeth ar benwythnosau. Os yw defnyddio'r sylwedd hwn yn dod yn broblem, gellwch chwilio am gymorth, cyngor a chwnsela gan wasanaeth yn eich ardal. Gall meddygon teulu wneud atgyfeiriadau i wasanaethau arbenigol cyffuriau. I gael disgrifiad o'r hyn y mae gwasanaethau cyffuriau gwahanol yn eu gwneud, dewiswch wasanaethau helpu yma neu'r brif ddewislen.

Rhieni a pherthnasau eraill

Mae asiantaethau cyffuriau hefyd yn darparu llawer o gyngor a chefnogaeth i rieni pobl sy'n defnyddio'r cyffuriau hyn. Gall llawer o asiantaethau stryd gynnig grwpiau cefnogi neu gwnsela i aelodau teuluoedd, partneriaid ac ati.

Cuddio
Ffôn di-dal:
Neu tecstiwch DAN i: