Nicotin
nicotine- Mygyn
- Smôcs
- Snuff
- Rollies
- Bifters
- Fags
- Ciggies
- Sigarets
- Baco
- Baccy
- Tybaco
- Snout
Enwau Gwyddonol: Nicotin
Enwau Generig: Tybaco

Ni allwch bob amser fod yn siŵr mai'r hyn a brynwch yw'r hyn a gewch, ond os ydych am anfon unrhyw
sylwedd i ffwrdd i'w brofi, gallwch ei anfon at WEDINOS
Dail planhigyn tybaco wedi sychu a'u rhwygo. Sigarau a sigaréts wedi'i rholio â llaw neu wedi'u cynhyrchu'n fasnachol. Weithiau fe'i paratowyd ar gyfer cnoi.
Effeithiau A Ddymunir:
Lleihau pryder, ymlacioSgîl Effeithiau:
Penysgafnder, teimlo'n sâl, cyfradd pwls cyflymach a phwysedd gwaed.Tymor Hir:
Dibyniaeth, broncitis, clefyd y galon, niwed i gylchrediad, canserau (ysgyfaint, gwddf, tafod). Gall ysmygu tybaco yn ystod beichiogrwydd arwain at niwed i'r ffoetws a phwysau geni isel. Mae tybaco, baco a broseswyd a mwg baco yn cynnwys carsinogenau (cyfrwng sy'n achosi canser). Mae pob sigarét yn cynhyrchu 'tar' sy'n cael ei fewnanadlu i'r ysgyfaint drwy'r mwg, ond mae'r brandiau'n amrywio mewn faint o dar sydd ynddynt. Yn y 1950au, darganfuwyd bod y tar mewn mwg tybaco yn gysylltiedig gyda risg uwch o ganser yr ysgyfaint. Mae Carbon monocsid, y prif nwy gwenwynig mewn peipen wacau car, yn bresennol mewn mwg sigaréts Yn ogystal â hyn, awdurdodir 600 o ychwanegion i'w defnyddio mewn cynnyrch tybaco, gall llawer o'r rhain fod yn niweidiol iawn i'r corff dynol ac iechyd. Mae amcangyfrifiad diweddar yn dangos bod oddeutu 82,800 o bobl yn cael eu lladd yn flynyddol yn Lloegr yn sgil ysmygu, gan gyfrif at un o bob pump o holl farwolaethau'r DU.Tymor Byr:
Goddefiad, anafiadau llosg o danau a ddechreuwyd yn ddamweiniol
Symbylydd y brif system nerfol, niwrocsin.
Ers Hydref 2007, mae'n anghyfreithiol i werthu cynnyrch tybaco i unrhyw un dan 18 oed (cynyddwyd o 16 oed), yng Nghymru, Lloegr a'r Alban. Cynnyrch a effeithir yn cynnwys sigaréts, sigarau, tybaco i ar gyfer rholio eich hunan a chetyn yn ogystal â phapurau rholio.
Ysmygu, cnoi yn achlysurol.
Cetyn, papur rholio, matsis/taniwr.
Gellir ei ragnodi neu ei brynu fel gwm nicotin neu bats a ddefnyddir i leddfu diddyfnu yn ystod ymgeisiadau i roi'r gorau i ysmygu.
Allfa masnachu, peiriannau gwerthu.
Mae clinigau rhoi'r gorau i ysmygu ym mhob ardal - gellwch ffonio i gael cymorth i roi'r gorau ar 0800 085 2219. Mae ystod o feddyginiaethau a thriniaethau am ddim ar gael i helpu pobl i roi'r gorau i ysmygu. Mae'r rhan fwyaf o feddygfeydd MT â chlinigau rhoi'r gorau i ysmygu a nyrsys sy'n arbenigol i gefnogi pobl i roi'r gorau. Gall bob clinig rhoi'r gorau ddarparu gwm, mewnanadlwyr neu batsys therapi amnewid nicotin a chyngor a chefnogaeth a chwnsela ac ystod o strwythurau cefnogi eraill.