Nitazînau
nitazenesEnwau Gwyddonol: opioidiau 2-Benzyl benzimidazole
Enwau Generig: Grŵp o gyffuriau a elwir yn gyffredin yn ‘Nitazînau’

Mae ystod cryfder nitazenau yn mynd o Butonitazene, yr amcangyfrifir iddo fod ddwywaith yn fwy grymus na heroin, hyd at N-pyrrolidino protonitazene yr amcangyfrifir iddo fod dros 1,000 gwaith yn fwy grymus na heroin.
Gwyddys bod o leiaf 27 o farwolaethau oedd yn gysylltiedig â ‘nitazînau’ yn ystod 2021, credir iddynt fod yn gysylltiedig yn bennaf â swp o heroin wedi’i lygru a ddaeth o Dde Lloegr. Rhwng Mehefin 2023 ac Ionawr 2024, roedd o leiaf 65 o farwolaethau oherwydd ‘nitazînau’ wedi’u cadarnhau yn Lloegr a’r Alban a’r un faint o leiaf eto lle nad yw canlyniadau profion wedi’u cadarnhau eto.
Mae yna bryder cenedlaethol, y bydd prinder heroin yn y DU oherwydd y cyfyngu llym ar gynhyrchu opiwm gan y Taliban yn Afghanistan, lle daw mwyafrif helaeth heroin stryd y DU. Gallai hyn arwain at fwy o lygru heroin stryd â ‘nitazînau’ neu opioidau synthetig cryf eraill
Effeithiau A Ddymunir:
Ar hyn o bryd, mae ‘nitazînau’ bron yn ddi-eithriad yn cael eu defnyddio fel cynhwysion difwynol digroeso neu’n cael eu cam-werthu fel cyffuriau stryd eraill, felly nid yw’r effeithiau’n rai a ddymunir. Mae'r effeithiau gwirioneddol yn debyg i opioidau synthetig cryf eraill fel fentanyl, ond adroddir bod ‘nitazînau’ yn arwain yn uniongyrchol at orddos ac anymwybyddiaeth heb unrhyw fath o effaith ‘uchel’ dymunol yn gyntaf.Sgîl Effeithiau:
Mae nitazînau’n llawer mwy tebygol o arwain at orddos na heroin stryd, felly mae hyd yn oed yn bwysicach eich bod yn gwneud yr hyn a allwch i leihau risgiau.
Tymor Hir:
Fel opioidau synthetig cryf eraill, mae ‘nitazînau’ yn debygol iawn o gynhyrchu dibyniaeth. Os daw difwyno cyffuriau stryd â ‘ nitazîn’ yn beth cyffredin a/neu os bydd marchnad anghyfreithlon ar gyfer ‘nitazînau’ yn datblygu, mae’n debygol y bydd cynnydd sylweddol mewn marwolaethau sy’n gysylltiedig â chyffuriau.Tymor Byr:
Mae heroin ac opioidau eraill eisoes yn gyfrifol am y gyfran fwyaf o farwolaethau sy'n gysylltiedig â chyffuriau sydd wedi mwy na dyblu yng Nghymru a Lloegr ers 2012. Gan fod 'nitazînau’ yn llawer mwy grymus, mae heroin stryd sy’n cael ei gamwerthu neu sydd wedi’i lygru â ‘nitazînau’ yn llawer mwy tebygol o arwain at orddos angheuol.Prin yw’r wybodaeth am y defnydd dynol o ‘nitazînau’. Ar wahân i wahaniaethau mawr mewn grym, nododd un astudiaeth ddiweddar o ysbyty yn yr Unol Daleithiau, ei fod nid yn unig yn gysylltiedig â tananadlu (anadlu bas araf) sy'n gysylltiedig â gorddos opioid, ond hefyd bod Metonitazene yn gysylltiedig ag ataliad y galon (trawiad ar y galon).
Yn yr un modd â marwolaethau yn ymwneud â heroin, mae llawer o’r marwolaethau yn ymwneud â ‘nitazîn’ hefyd yn cynnwys defnydd cyffuriau eraill fel diazepam a pregabalin a gymerwyd ar yr un pryd.