NRG1
nrg1- O-2482
- Rave
- Energy-1
- NRG-1
- Naphyrone
Enwau Gwyddonol: Naphthylpyrovalerone
Enwau Generig: NRG1

Effeithiau A Ddymunir:
Mae'r sylwedd yn weithredol ar ddos isel. Symbyliad, effro yn hirach, effro iawn, eisiau siarad.Sgîl Effeithiau:
Pryder, crychguriad y galon, pwysedd gwaed uchel, tymheredd y corff uwch, methu canolbwyntio'n hir, clensio'r ên, cyhyrau'n plycio/gwingiad, methu cysgu, paranoia, colli cof.Tymor Hir:
Nid oes unrhyw ddata ynghylch diogelwch neu wenwyndra'r sylwedd hwn. Ni wyddom fawr ddim am effeithiau tymor hir y cyffur oherwydd yr hanes byr o'i ddefnyddio. Fodd bynnag, bydd niwed posibl yn cynnwys effeithiau ar y galon a phibellau'r gwaed, gorwres, dibyniaeth ac effeithiau seiciatryddol. Bu adroddiadau am baranoia difrifol a thueddiadau hunanladdiadTymor Byr:
Nid oes unrhyw ddata ynghylch diogelwch neu wenwyndra o'r sylwedd hwn.Rhieni a pherthnasau eraill
Mae asiantaethau cyffuriau hefyd yn darparu llawer o gyngor a chefnogaeth i rieni pobl sy'n defnyddio'r cyffuriau hyn. Gall llawer o asiantaethau stryd gynnig grwpiau cefnogi neu gwnsela i aelodau teuluoedd, partneriaid ac ati.