Opiwm

opium
  • Tar
  • Black
  • Big O
  • O

Cyffuriau A i Y

Enwau Gwyddonol: Opiwm

Enwau Generig: Opiate

An example of what Opiwm looks like
Mae Opiwm yn deillio o'r planhigyn pabi Opiwm (papaver somniferum). Mae'n cael ei dynnu o'r planhigyn drwy dorri'r goden hadau i ryddhau sudd llaethog. Yna caiff ei sychu a'i goethi yn sylfaen opiwm sy'n bast du gludiog, sy'n cynnwys morffin a codeine.

Effeithiau A Ddymunir:

Symbyliad dechreuol dychymyg gwell, dedwyddwch, ymlacio, llai o bryder, cwsg.

Sgîl Effeithiau:

Teimlo'n sâl, chwydu, syrthni, y galon yn curo'n arafach, anadlu’n ysgafn.

Tymor Hir:

Dibyniaeth, diffyg gofal corfforol, rhwymedd

Tymor Byr:

Goddefiad
Iselydd y system nerfol ganolog, poen laddwr.
Yn cael ei ysmygu drwy bibell fel arfer, heb ddim wedi'i ychwanegu, ond fel heroin, gellir ei gynhesu ar ffoil ac anadlu'r mygdarth - fel sy'n cael ei alw'n 'erlid y ddraig' (chase the dragon. Hefyd, gellir ei fwyta neu ei wneud yn de i'w yfed.
Pibell opiwm, ffoil, matsis neu daniwr.
Yn achlysurol, defnyddir fel analgesia, ond pur anaml y dyddiau hyn.
Mae'r cofnod cynharaf o opiwm yn dyddio'n ôl 6000 o flynyddoedd yn ôl. Daw heroin o'r pabi opiwm, papaver somniferum, sy'n tyfu mewn sawl rhan o'r byd (yn cynnwys Prydain). Y prif ganolfannau sy'n ei gynhyrchu'n anghyfreithlon yw rhanbarthau ymylol Iran, Afghanistan a Pakistan (a elwir yn 'Golden Crescent'), ac o gwmpas ffiniau Gwlad Thai, Burma a Laos (a elwir yn 'Golden Triangle') a rhannau o'r is-gyfandir Indiaidd. Mae Codeine, morffin a heroin yn cael eu coethi o opiwm amrwd. Pur anaml gwelir Opium ym Mhrydain y dyddiau hyn.
Gwelir llond llaw o ddefnyddwyr opiwm dibynnol hŷn mewn clinigau dibyniaeth cyffuriau. Mae 'asiantaethau stryd' neu brosiectau, a elwir weithiau yn wasanaethau cyffuriau cymuned neu dimau cyffuriau cymuned, yn cynnig ystod o wasanaethau yn cynnwys gwybodaeth a chyngor, cwnsela, dadwenwyno a rhagnodi i rai sy'n defnyddio opiadau, amnewid nodwyddau ac weithiau grwpiau cefnogi a gwasanaethau eraill fel aciwbigo. Mae rhai'n agor am oriau hirach ac weithiau ar benwythnosau. Gall meddygon teulu ac ysbytai atgyfeirio at wasanaethau fel Unedau Dibyniaeth Cyffuriau. Mae'r rhain fel arfer mewn ysbytai neu gerllaw ac maen nhw'n arbenigo mewn helpu rhai sy'n defnyddio cyffuriau, yn enwedig pobl sy'n gaeth i gyffuriau fel heroin. Maen nhw'n cynnig cwnsela, dadwenwyno, rhagnodi amnewidion a thriniaethau eraill. Mae gwasanaethau preswyl yn cynnig rhaglenni triniaeth i rai sy'n gaeth iawn i gyffuriau ac sy'n ymdrechu i roi'r gorau iddi. Rhaid iddynt fod yn rhydd o gyffuriau wrth gael eu derbyn fel arfer, sy'n golygu bod yn rhaid iddynt gael eu dadwenwyno cyn mynd i mewn. Fel arfer, mae rhaglenni'n para 3-6 mis, ond mae rhai rhaglenni 12 cam yn para mwy. Mae'r mathau o raglenni yn amrywio. Mae grwpiau hunan gymorth fel Narcotics Anonymous (NA) yn cydlynu grwpiau cefnogi lleol i rai sy'n defnyddio cyffuriau ar hyd a lled y wlad. Mae Families Anonymous yn cynnal grwpiau tebyg i deuluoedd rhai sy'n defnyddio cyffuriau.

Rhieni a pherthnasau eraill

Mae asiantaethau cyffuriau hefyd yn darparu llawer o gyngor a chefnogaeth i rieni pobl sy'n defnyddio'r cyffuriau hyn. Gall llawer o asiantaethau stryd gynnig grwpiau cefnogi neu gwnsela i aelodau teuluoedd, partneriaid ac ati.

Cuddio
Ffôn di-dal:
Neu tecstiwch DAN i: