Orphines neu ‘cyffuriau tebyg i brorphine’

orphines-or-brorphine-like-drugs
  • Brorphine
  • Chlorphine
  • Cychlorphine (N-propionitrile chlorphine)
  • Spirochlorphine (R-6890)
  • 5-chloro Desmethyl Chlorphine
  • 5,6-Dichloro desmethylchlorphine (SR-17018)
  • Etodezitramide
  • Spirobrorphine
  • 5,6-dichlorobrorphine (SR 14968)

Cyffuriau A i Y

Enwau Gwyddonol: Opioidau piperidinyl benzimidazolone

Enwau Generig: Opioidau synthetig newydd (NSO).Fe'u gelwir yn ‘Orphines’ neu ‘gyffuriau tebyg i brorphine’

Effeithiau A Ddymunir:

Tystiolaeth gyfyngedig yn unig sydd ar gael ar yr effeithiau, ac fe'u gwelir amlaf fel sylweddau halogol o fewn heroin stryd; credir bod yr effeithiau a ddymunir yn cynnwys:
  • Teimlad cryf o fod yn uchel (high)
  • Ewfforia
  • Ymlacio
  • Lleddfu poen
  • Atal symptomau diddyfnu o opioidau

Sgîl Effeithiau:

  • Cysglyd
  • Dryswch
  • Effaith tawelydd
  • Chwysu
  • Cosi
  • Cyfog
Er bod tystiolaeth am effeithiau rhai 'orphines' yn gyfyngedig a bod eu grym yn amrywio'n fawr, mae cyngor ar leihau niwed – tebyg i'r un a roddir ar gyfer fentanyl ac opioidau synthetig cryf eraill – yn briodol: Os ydych chi'n defnyddio 'orphines' yn fwriadol:
  • Peidiwch â'u defnyddio ar eich pen eich hun.
  • Sicrhewch fod naloxone ar gael bob amser. Mae 'orphines' yn opioidau. Mae naloxone yn gwrthdroi effaith gorddos opioid.
  • Defnyddiwch symiau llai neu ewch yn arafach. Gan fod 'orphines' yn gallu bod mor gryf, mae ychydig bach yn mynd yn bell (o'i gymharu â heroin!) a gall gorddos ddigwydd yn gyflym, weithiau cyn i chi orffen chwistrellu'r dos.
  • Ceisiwch eu hanadlu drwy’r trwyn neu eu smygu yn hytrach na'u chwistrellu. Chwistrellu sydd â’r risg uchaf o orddos, felly gall newid i anadlu drwy’r trwyn neu smygu helpu i leihau'r risg. Gallwch chi ddal i orddosio wrth smygu neu drwy anadlu drwy’r trwyn, yn enwedig gyda'r 'orphines' cryfach, felly cymerwch bwyll.
Er diogelwch, os ydych chi'n defnyddio heroin: Mae bron yn amhosibl dweud a yw heroin wedi'i gymysgu ag 'orphines' neu opioidau synthetig cryf eraill dim ond drwy edrych arno. Os ydych chi'n meddwl y gallai eich heroin gynnwys 'orphines', mae pethau y gallwch eu gwneud i leihau'r risg o niwed:
  • Ar hyn o bryd, ni all stribedi profi ganfod 'orphines', er eu bod yn dal yn ddefnyddiol i nodi sylweddau halogol eraill annymunol fel nitazenes, fentanyl, medetomidine a xylazine a allai fod mewn heroin a chyffuriau stryd eraill.
  • Peidiwch â'i ddefnyddio ar eich pen eich hun.
  • Cadwch naloxone gyda chi bob amser. Efallai y bydd angen mwy o naloxone arnoch i wella o orddos 'orphine' nag y byddai ei angen ar gyfer heroin.
  • Ysmygwch ychydig bach ar ffoil cyn ceisio chwistrellu. Mae'n llai tebygol y byddwch yn marw oherwydd ysmygu heroin sydd wedi'i halogi, gan y byddech fel arfer yn colli ymwybyddiaeth cyn anadlu swm marwol.
  • Os ydych chi'n chwistrellu, dechreuwch gyda dos sy'n chwarter yr hyn rydych chi'n ei ddefnyddio fel arfer.
  • Peidiwch â chwistrellu'n gyflym iawn ('slam'). Gwthiwch y plymiwr i lawr yn araf, gan oedi i adael i'r dos arferol ddechrau gweithio. Os ydych chi'n teimlo ei fod yn anarferol o gryf neu'n achosi chi i dawelu’n sydyn, tynnwch y nodwydd allan.
  • Byddwch yn ymwybodol o arwyddion gorddos a gwnewch yn siŵr bod unrhyw un rydych chi'n byw neu'n defnyddio cyffuriau gyda nhw yn eu hadnabod hefyd. Mewn argyfwng, defnyddiwch naloxone a ffoniwch am ambiwlans.

Tymor Hir:

Er bod y dystiolaeth yn gyfyngedig, mae'n debygol bod y risgiau hirdymor yn debyg i rai opioidau cryf eraill fel fentanyl ac mae’r risgiau’n cynnwys goddefgarwch a dibyniaeth.

Tymor Byr:

Er bod y dystiolaeth o niwed i iechyd yn sgil orphines yn gyfyngedig, mae'n debygol bod y risgiau byrdymor yn debyg i rai opioidau synthetig cryf eraill fel fentanyl.

Mae'r risgiau'n cynnwys tananadlu difrifol sy'n arwain at gorddosio a allai fod yn angheuol.

Anafiadau a heintiau sy'n gysylltiedig â chwistrellu (Hepatitis B, C a HIV, septisemia).

Gan fod orphines i'w cael amlaf fel sylweddau halogol annymunol mewn heroin, mae'r risg o orddos yn cynyddu'n sylweddol. Mae'r risg hefyd yn cynyddu os cânt eu cymryd ynghyd â chyffuriau eraill fel pregabalin neu benzodiazepines.
Mae Orphines yn opioidau synthetig ac maen nhw’n gweithio drwy ryngweithio â chyfres o dderbynyddion opioid yn yr ymennydd a'r system nerfol.

Mae ‘Orphines’ neu ‘gyffuriau tebyg i brorphine’ yn deulu o opioidau synthetig sydd wedi ymddangos yn ddiweddar ar y strydoedd yn y DU, yn bennaf fel sylweddau ychwanegol mewn heroin a chyffuriau stryd eraill.

Y mwyaf adnabyddus o deulu cyffuriau ‘Orphine’ yw brorphine.

Yn Lloegr, mae mwy na 15 o farwolaethau lle’r oedd orphines yn gysylltiedig â’r achos, wedi eu cadarnhau ers gwanwyn 2025. Mae hyn yn cynnwys 11 marwolaeth yn Llundain a’r De-ddwyrain a oedd yn gysylltiedig â cychlorphine (N-Propionitrile chlorphine) ar ddiwedd 2025.

Credir bod gan brorphine nerth tebyg i fentanyl. Nid yw cryfder cymharol cychlorphine wedi’i gadarnhau, ond credir ei fod yn debyg i rai o’r ‘nitazenes’ mwy grymus.
Yn dibynnu ar yr orphine, gellir eu chwistrellu, eu cymryd o dan y tafod, eu llyncu, eu chwistrellu i’r geg, eu hanadlu drwy’r trwyn neu eu fepio.
Dim ond un amrywiolyn orphine, sef bezitramide, a ddatblygwyd yn fasnachol at ddefnydd meddygol erioed fel lleddfwr poen; fodd bynnag, yn dilyn nifer o farwolaethau, tynnwyd bezitramide oddi ar y farchnad yn 2004.
Datblygwyd y grŵp o gyffuriau piperidine benzimidazolone ('orphines') yn wreiddiol fel lleddfwyr poen posibl yn y 1960au. Credir, oherwydd deddfwriaeth yn Tsieina a arweiniodd at waharddiad llwyr ar gynhyrchu'r opioidau synthetig a elwir yn 'nitazenes', bod masnachwyr yn Tsieina wedi newid i gynhyrchu 'orphines'.
Cuddio
Ffôn di-dal: