PCP
pcp- Angel Dust
- PCP
- Phenylcyclohexylpiperidine
- Phencyclidine
Enwau Gwyddonol: Phencyclidine, Phenylcyclohexylpiperidine
Enwau Generig: Phencyclidine

Effeithiau A Ddymunir:
Ymlacio, diymataliaeth a rhithwelediadau. Gwerthwyd PCP dan enwau cyffuriau seicadelig eraill, felly byddai defnyddwyr diarwybod yn chwilio am effeithiau tebyg i LSD, h.y. rhithwelediadau a doniolwch.Sgîl Effeithiau:
Llai o sensitifrwydd i boen, syrthni, penysgafnder, fferdod, diffyg cydlyniad, ffwndro, rhithwelediadau, datgysylltiad, (teimlad y tu allan i'r corff). Mae gan PCP enw yn yr UDA am gynhyrchu ymddygiad paranoid a seicotig ymysg ei ddefnyddwyr. Prin iawn y gwelir hwn yn y DU, felly nid yw'n glir a fyddai'r effeithiau hyn i'w gweld ymysg defnyddwyr y DU.Tymor Hir:
Gall gynnwys problemau lleferydd a cholli cof. Gall hefyd ddechrau cyflwr seicotig sy'n ymdebygu i episodau o sgitsoffrenia a all bara misoedd ar y tro gyda dosau gwenwynig.Tymor Byr:
Ymddygiad anrhagweladwy, damweiniau, gorddos, llewyg, confylsiwn.Llafn rasel, arwyneb gwastad caled (fel drych neu wydr), tiwb neu arian papur wedi'i rolio.
Os caiff ei ysmygu:
Papurau sigarét, tybaco neu marijuana.
Os caiff ei chwistrellu:
Chwistrell a nodwydd, dŵr, llwy, rhwymyn tynhau.
Rhieni a pherthnasau eraill
Mae asiantaethau cyffuriau hefyd yn darparu llawer o gyngor a chefnogaeth i rieni pobl sy'n defnyddio'r cyffuriau hyn. Gall llawer o asiantaethau stryd gynnig grwpiau cefnogi neu gwnsela i aelodau teuluoedd, partneriaid ac ati.