PCP

pcp
  • Angel Dust
  • PCP
  • Phenylcyclohexylpiperidine
  • Phencyclidine

Cyffuriau A i Y

Enwau Gwyddonol: Phencyclidine, Phenylcyclohexylpiperidine

Enwau Generig: Phencyclidine

An example of what PCP looks like
Ar ei ffurf buraf, mae'n bowdr gwyn grisialog, tabledi, hylif.

Effeithiau A Ddymunir:

Ymlacio, diymataliaeth a rhithwelediadau. Gwerthwyd PCP dan enwau cyffuriau seicadelig eraill, felly byddai defnyddwyr diarwybod yn chwilio am effeithiau tebyg i LSD, h.y. rhithwelediadau a doniolwch.

Sgîl Effeithiau:

Llai o sensitifrwydd i boen, syrthni, penysgafnder, fferdod, diffyg cydlyniad, ffwndro, rhithwelediadau, datgysylltiad, (teimlad y tu allan i'r corff). Mae gan PCP enw yn yr UDA am gynhyrchu ymddygiad paranoid a seicotig ymysg ei ddefnyddwyr. Prin iawn y gwelir hwn yn y DU, felly nid yw'n glir a fyddai'r effeithiau hyn i'w gweld ymysg defnyddwyr y DU.

Tymor Hir:

Gall gynnwys problemau lleferydd a cholli cof. Gall hefyd ddechrau cyflwr seicotig sy'n ymdebygu i episodau o sgitsoffrenia a all bara misoedd ar y tro gyda dosau gwenwynig.

Tymor Byr:

Ymddygiad anrhagweladwy, damweiniau, gorddos, llewyg, confylsiwn.
Rhithwelediadau, anesthetig, niwrowenwyn (gwenwyn sy'n gweithio'n benodol ar gelloedd y nerfau)
Gellir cymryd y tabledi drwy'r geg, gellir sniffian y powdr i fyny'r trwyn, ei ysgeintio ar dybaco neu marijuana a'i ysmygu, neu ei chwistrellu. Neu gellir dipio sigarét neu sigarét cyffuriau mewn hylif PCP a'i ysmygu.
Os caiff ei sniffian:
Llafn rasel, arwyneb gwastad caled (fel drych neu wydr), tiwb neu arian papur wedi'i rolio.

Os caiff ei ysmygu:
Papurau sigarét, tybaco neu marijuana.

Os caiff ei chwistrellu:
Chwistrell a nodwydd, dŵr, llwy, rhwymyn tynhau.
Terfynwyd ei ddefnyddio fel anesthetig dynol ac yna fel anesthetig milfeddygol. Ystyrir yn anaddas i'w ddefnyddio'n feddygol.
Mae'r cyffur yn adnabyddus iawn yn UDA, ond prin y gwelir ym Mhrydain. Gellir ei fewnforio, yn bur debyg o'r UDA neu ei ddargyfeirio o gyflenwadau milfeddygol domestig.
Mae 'asiantaethau stryd' neu brosiectau, (a elwir weithiau yn wasanaethau cyffuriau cymunedol neu dimau cyffuriau cymunedol) ar gael yn y rhan fwyaf o ardaloedd y DU, sy'n cynnig ystod o wasanaethau yn cynnwys gwybodaeth a chyngor, cwnsela, ac weithiau grwpiau cefnogi a therapïau cyflenwol fel aciwbigo. Mae gan rai gwasanaethau oriau gwaith estynedig ac mae rhai'n cynnig cefnogaeth ar benwythnosau. Os yw defnyddio'r sylwedd hwn yn dod yn broblem, gellwch chwilio am gymorth, cyngor a chwnsela gan wasanaeth yn eich ardal. Gall gwasanaethau cwnsela fod yn briodol. Gall meddygon teulu wneud atgyfeiriadau i wasanaethau arbenigol cyffuriau.

Rhieni a pherthnasau eraill

Mae asiantaethau cyffuriau hefyd yn darparu llawer o gyngor a chefnogaeth i rieni pobl sy'n defnyddio'r cyffuriau hyn. Gall llawer o asiantaethau stryd gynnig grwpiau cefnogi neu gwnsela i aelodau teuluoedd, partneriaid ac ati.

Cuddio
Ffôn di-dal:
Neu tecstiwch DAN i: