Phenazepam
phenazepam- Bonsai Supersleep.
- Bonsai
- Fenazepam
Enwau Gwyddonol: 7-Bromo-5-(2-chlorophenyl)-1,3-dihydro-2H-1,4-benzodiazepin-2-one.
Enwau Generig: Benzodiazepine/Tawelydd ysgafn

Effeithiau A Ddymunir:
Ymlacio, lliniaru tensiwn a phryderSgîl Effeithiau:
Syrthni, penysgafnder, diffyg cydlyniad, ffwndrus ac anghofrwydd, igian. Mae adroddiadau'n awgrymu bod Phenazepam oddeutu bum gwaith cryfach na Valium (benzodiazepine cyfarwydd arall).Tymor Hir:
Goddefiad, dibyniaeth, symptomau rhoi'r gorau difrifol wrth stopio'n sydyn, pyliau o banig, pryder difrifol, confylsiwn.Tymor Byr:
Gorddos - mae'n bosibl i ddefnyddwyr gymryd dos arall cyn i effeithiau'r dos cyntaf gael effaith, oherwydd nad yw'r effeithiau'n cyrraedd eu huchafbwynt hyd nes bydd 2-3 awr wedi mynd heibio ar ôl cymryd dos drwy'r geg, mae hyn yn cynyddu'r risg o orddos yn arwyddocaol. Mae'r risg hwn yn cynyddu ymhellach os caiff ei gyfuno gyda chyffuriau eraill a/neu alcohol. Mae damweiniau'n fwy o risg tra dan ddylanwad. Gellir eu cam-werthu neu eu camgymryd am benzodioazepinau eraill megis Valium, felly ni fydd defnyddwyr yn gwybod am yr effeithiau cryfach a'r risgiau cysylltiedig.Rhieni a pherthnasau eraill
Mae asiantaethau cyffuriau hefyd yn darparu llawer o gyngor a chefnogaeth i rieni pobl sy'n defnyddio'r cyffuriau hyn. Gall llawer o asiantaethau stryd gynnig grwpiau cefnogi neu gwnsela i aelodau teuluoedd, partneriaid ac ati.