PMA
pma- Chicken Yellow
- Chicken Powder
- Killer
- Red Mitsubishi
- Pink Ecstasy
- Dr. Death
- Death
- PMMA
Enwau Gwyddonol:
PMA: para-methoxy-amphetamine
PMMA: para-methoxy-N-methylamphetamine
Enwau Generig:
PMA: 4-methoxyamphetamine, 4-MA
PMMA: 4-MMA; Methyl-MA

Effeithiau A Ddymunir:
Mae effeithiau PMA / PMMA yn debyg i MDMA a gellir ei dalu fel ecstasi. Teimlad o fod yn effro a llawn egni; hefyd â rhywfaint o rinweddau gwrthiselder oherwydd ei ryngweithiad â serotonin.Sgîl Effeithiau:
Mae PMA yn gemegol gryfach nag ecstasi ac mae'n cymryd hirach i gymryd effaith, maeTymor Hir:
Ni wyddom beth yw'r risgiau tymor hir ar hyn o bryd.Tymor Byr:
Mae PMA yn seicedelig cryf a all achosi gorgynhesu'r corff yn beryglus a lefelau uchel o wenwyndra. Gwerthwyd PMA fel tabledi ecstasi ac arweiniodd hyn at orwres angheuol i rai defnyddwyr. Mae gorddos yn risg go iawn, yn enwedig os caiff ei gymysgu gyda chyffuriau stimiwleiddio eraill megis cocên neu MDMA neu os caiff ei gymysgu ag alcohol, gan arwain at gonfylsiwn, coma a marwolaeth. Yn ôl yr hyn a ddeellir, mae PMMA yn wannach na PMA, yn debycach i ecstasi, ond mae'n dal i allu achosi teimlo'n sâl a gorwres.Rhieni a pherthnasau eraill
Mae asiantaethau cyffuriau hefyd yn darparu llawer o gyngor a chefnogaeth i rieni pobl sy'n defnyddio'r cyffuriau hyn. Gall llawer o asiantaethau stryd gynnig grwpiau cefnogi neu gwnsela i aelodau teuluoedd, partneriaid ac ati.