Poppers

poppers
  • Alkyl Nitrites
  • Isobutyl Nitrite
  • Butyl Nitrite
  • Amyl Nitrite
  • Pentyl Nitrite
  • Propyl Nitrite
  • Isosorbide dinitrate
  • Isopropyl Nitrite

Cyffuriau A i Y

Enwau Gwyddonol: Isopropyl Nitrite, Amyl nitrite, butyl nitrite, isobutyl nitrite

Enwau Generig: Alkyl nitrites

An example of what Poppers looks like
Hylif melyn clir fel arfer yn cael ei werthu mewn poteli bach neu weithiau mewn ffiolau gwydr sy'n cael eu torri ar hancesi cyn anadlu'r anweddau. Mae'r gwydr yn 'popio' wrth iddo dorri – dyna pam y gelwir yn "poppers" ar y stryd.

Effeithiau A Ddymunir:

Llawenydd dwys, ond byrhoedlog, felly weithiau'n cael ei ddefnyddio yn ystod rhyw. Mae'r effeithiau'n para ychydig funudau.

Sgîl Effeithiau:

  • Pendro
  • Gwrido
  • Cyfogi a thaflu i fyny
  • Cur Pen
  • Anhwylder
  • Llewygu.
  • Byddwch yn ofalus i sicrhau nad oes unrhyw gyswllt croen yn digwydd a bod yr hylif yn cael ei gadw i ffwrdd o fflamau agored.
  • Ni ddylid byth llyncu poppers fel hylif, gan y bydd hyn yn arwain at wenwyno.
  • Ni ddylid cymysgu poppers â chyffuriau eraill, yn enwedig y rhai sy'n newid pwysedd gwaed.

Tymor Hir:

  • Cur pen hirdymor
  • Gostyngiad yng nghyfradd y galon.
  • Pwysedd gwaed isel
  • Golwg wedi'i ddifrodi gyda defnydd cronig (‘maciwlopathi gyda  poppers’).

Tymor Byr:

  • Damweiniau tra dan ddylanwad.
  • Mae llyncu'r hylif yn hytrach nag anadlu'r mygdarth yn hynod o beryglus a bu nifer fechan o farwolaethau o hyn.
  • Yn lleihau pwysedd gwaed, a all achosi llewygu. Risg ychwanegol os caiff ei gymryd gyda Viagra neu unrhyw feddyginiaeth pwysedd gwaed arall.
  • Y rhai sydd â phroblemau'r galon, anemia neu glawcoma (clefyd llygaid) mewn mwy o berygl.
Anadlydd. Fasomledydd - mae hyn yn agor y pibellau gwaed gan achosi rhuthr o waed trwy'r corff a'r ymennydd y gellir ei brofi fel effaith wefreiddiol.
Mae'r hylif yn rhoi anweddau sy'n cael eu hanadlu.
Daw nitradau mewn poteli bach neu ffiolau gwydr.
Defnyddir isosorbide dinitrate wrth drin angina, pibellau gwaed cyfyngedig i'r galon.
Mae nitraidau yn gyfansoddion cemegol wedi'u mireinio gan ddefnyddio ocsid nitrus. Mae Isosorbide dinitrite yn dal i gael ei ddefnyddio mewn meddygaeth i leddfu symptomau angina, ond nid yw Amyl nitrite a Butyl nitrate yn cael eu defnyddio mwyach. Ar hyn o bryd mae Pentyl nitrite neu Propyl nitrite yn cael eu canfod amlaf ar werth fel 'poppers'.
Prin iawn fydd asiantaethau cyffuriau cymuned neu wasanaethau cwnsela cyffuriau yn adrodd iddynt fod â chleientiaid â phroblemau nitradau, ond mae'n debyg mai'r rhain yw'r gwasanaethau gorau i helpu gyda phroblemau fel hyn. Mae 'asiantaethau stryd' neu brosiectau, (a elwir weithiau yn wasanaethau cyffuriau cymunedol neu dimau cyffuriau cymunedol) ar gael yn y rhan fwyaf o ardaloedd y DU, sy'n cynnig ystod o wasanaethau yn cynnwys gwybodaeth a chyngor, cwnsela, ac weithiau grwpiau cefnogi a therapïau cyflenwol fel aciwbigo. Mae gan rai gwasanaethau oriau gwaith estynedig ac mae rhai'n cynnig cefnogaeth ar benwythnosau. Os yw defnyddio'r sylwedd hwn yn dod yn broblem, gellwch chwilio am gymorth, cyngor a chwnsela gan wasanaeth yn eich ardal. Gall meddygon teulu wneud atgyfeiriadau i wasanaethau arbenigol cyffuriau.

Rhieni a pherthnasau eraill

Mae asiantaethau cyffuriau hefyd yn darparu llawer o gyngor a chefnogaeth i rieni pobl sy'n defnyddio'r cyffuriau hyn. Gall llawer o asiantaethau stryd gynnig grwpiau cefnogi neu gwnsela i aelodau teuluoedd, partneriaid ac ati.

Cuddio
Ffôn di-dal: