Popwyr
poppers- Rave
- Kix
- Ram
- TNT
- Thrust
- Liquid Gold
- Rush
- Popwyr
- Alkyl Nitrites
- Isobutyl Nitrite
- Butyl Nitrite
- Amyl Nitrite
Enwau Gwyddonol: Amyl nitrite, butyl nitrite, isobutyl nitrite
Enwau Generig: Alkyl nitrites

Effeithiau A Ddymunir:
Gorfoledd dwys, ond cyfnod byr, felly defnyddir weithiau yn ystod rhyw. Effeithiau'n para ychydig funudau.Sgîl Effeithiau:
Penysgafn, gwrid, teimlo’n sâl, chwydu, cur pen, dryswch, llewyguTymor Hir:
Cur pen estynedig, cyfradd calon is, pwysedd gwaed isel.Tymor Byr:
Damweiniau tra dan ddylanwad. Mae llyncu'r hylif yn hytrach nac anadlu'r mygdarth yn hynod beryglus, a bu ychydig farwolaethau yn sgil hyn. Lleihau pwysedd gwaed a all achosi llewygu.Rhieni a pherthnasau eraill
Mae asiantaethau cyffuriau hefyd yn darparu llawer o gyngor a chefnogaeth i rieni pobl sy'n defnyddio'r cyffuriau hyn. Gall llawer o asiantaethau stryd gynnig grwpiau cefnogi neu gwnsela i aelodau teuluoedd, partneriaid ac ati.