Seiclisin
cyclizine- Valoid
- Cyclizine Lactate
- Cyclizine Hydrochloride
Enwau Gwyddonol: Seiclisin hydroclorid (tabledi), seiclisin lactad (ampylau)
Enwau Generig: Seiclisin. Gwrth-histamin.
Effeithiau A Ddymunir:
Mae seiclisin wedi cael ei gamddefnyddio oherwydd mae dosys cryfach ohono yn newid ymwybyddiaeth ac yn achosi rhithweledigaethau. Mae cyffuriau opioid yn tueddu i beri chwydu, felly gellir rhagnodi gwrthgyfogyddion ar yr un pryd. Caiff moddion opioid dipipanon (sy'n derbyg i fethadon) ei rhagnodi fel fformiwleiddiad sydd wedi'i gyfuno â ceiclisin. Mae cyfuniadau o seiclisin ac opioidau megis methadon wedi cael eu camddefnyddio oherwydd anaml iawn y bydd y gymysgedd sy'n cynnwys dipipanon ar gael i'w brynu fel cyffur stryd.Sgîl Effeithiau:
- Syrthni
- Golwg aneglur
- Pendro
- Dryswch
- Colli cof am gyfnod byr.
Tymor Hir:
Mae ymddygiad caethiwus, ymddygiad ceisio cyffuriau a chaethiwed yn risgiau hysbys.Tymor Byr:
Damweiniau (yn enwedig os caiff ei gymysgu ag alcohol). Gwyddys am o leiaf un marwolaeth a sawl gorddos. Mae defnyddio seiclisin ynghyd â symiau sylweddol o alcohol yn neilltuol o beryglus, oherwydd gall effaith gwrthgyfogol seiclisin gynyddu gwenwyndra alcohol.Mae seiclisin yn wrth-histamin. Gwerthir tabledi seiclisin mewn fferyllfeydd fel cynhyrchion ag enw brand.
Rhieni a pherthnasau eraill
Mae asiantaethau cyffuriau hefyd yn darparu llawer o gyngor a chefnogaeth i rieni pobl sy'n defnyddio'r cyffuriau hyn. Gall llawer o asiantaethau stryd gynnig grwpiau cefnogi neu gwnsela i aelodau teuluoedd, partneriaid ac ati.