Steroidau
steroids- Roids
- Steroidau Anabolig
- Sustanon 250
- Stanozolol
- Dianabol
- Deca-Durabolin
- Anavar
- AAS
- Anabolic-Androgenic Steroids
Enwau Gwyddonol: Steroidau Anabolig - Androgenig (AAS)
Enwau Generig: Enwau cynnyrch yn cynnwys: Anavar, Deca-Durabolin, Dianabol, Stanozolol, Sustanon 250.

Effeithiau A Ddymunir:
Cyhyrau mwy a pherfformiad, gwell diffiniad corfforol.Sgîl Effeithiau:
I ddynion, methu cael codiad, anffrwythlonedd/anallu, ceilliau'n lleihau a chaledu, bronnau mwy. I ferched, clitoris chwyddedig, amharu ar y cylch mislif, blew ar yr wyneb, acne, llais yn dyfnhau. Os caiff ei ddefnyddio yn ystod beichiogrwydd, perygl o niwed difrifol i'r ffetws.- Gall steroidau fod yn wenwynig i'ch afu. Os byddwch chi'n sylwi ar eich llygaid yn mynd yn felyn (clefyd melyn) gall nodi problem ddifrifol gyda'r afu. Gofynnwch am gyngor meddygol ar unwaith.
- Os ydych yn chwistrellu steroidau, sicrhewch fod nodwyddau'n lân ac nad ydyn nhw wedi'u defnyddio; gallwch gael nodwyddau glân a gwybodaeth chwistrellu fwy diogel gan asiantaeth cyfnewid nodwyddau neu gyffuriau.
- Mae steroidau chwistrelladwy bob amser yn cael eu chwistrellu i'r cyhyrau; nid oes steroid anabolig wedi'i ddylunio i'w ddefnyddio yn syth i'r gwaed.
- Cyn defnyddio steroidau, ceisiwch gyngor gan weithiwr cyffuriau. Gallant roi cyngor chwistrellu mwy diogel i chi a'ch cyfeirio at wybodaeth am steroidau.
- Bydd cymryd steroidau drwy'r geg yn lleihau'r risgiau a'r problemau gyda chwistrellu. Fodd bynnag, gall cymryd steroidau drwy'r geg wneud mwy o niwed i'ch afu a gallai fod yn fwy gwenwynig i'ch arennau.
- Fe'ch cynghorir i roi'r gorau i ddefnyddio steroidau yn raddol. Gostyngwch y dosau'n raddol bob amser, peidiwch â stopio'n sydyn.
Tymor Hir:
Dibyniaeth, goddefiad, niwed i'r iau, clefyd y galon, paranoia, cynnydd mewn ymosodedd a elwir weithiau'n 'roid rage'. Newidiadau niweidiol mewn colesterol, acne, pwysedd gwaed uchel a newidiadau peryglus i strwythur y galon. Os caiff ei gymryd gan bobl ifanc, gall camddefnyddio steroidau anabolig amharu ar dyfiant normal. Os caiff hwn neu gyffur arall ei chwistrellu, mae risgiau'n gysylltiedig â defnyddio'r ffurf hwn o gyffur: gall achosi niwed i'r gwythiennau, wlserau a madredd, yn enwedig os defnyddir nodwyddau anlanwaith neu'r un lleoliad chwistrellu. Gall rhannu nodwyddau a chyfarpar chwistrellu eraill wasgaru heintiau firws HIV a hepatitis.Tymor Byr:
Symptomau seiciatryddol gan gynnwys ymosodedd a thrais, gorffwylledd, hwyliau oriog.Rhieni a pherthnasau eraill
Mae asiantaethau cyffuriau hefyd yn darparu llawer o gyngor a chefnogaeth i rieni pobl sy'n defnyddio'r cyffuriau hyn. Gall llawer o asiantaethau stryd gynnig grwpiau cefnogi neu gwnsela i aelodau teuluoedd, partneriaid ac ati.