Steroidau Anabolic-Androgenig

anabolic-androgenic-steroids
  • Roids
  • Steroidau Anabolig
  • Sustanon 250
  • Stanozolol
  • Dianabol
  • Deca-Durabolin
  • Anavar
  • AAS
  • Steroidau

Cyffuriau A i Y

Enwau Gwyddonol: Steroidau Anabolig - Androgenig (AAS)

Enwau Generig: Steroidau Anabolig-Androgenig (AAS) I-PEDS (Cyffuriau Gwella Delwedd a Pherfformiad)

Enwau gwahanol steroidau: Estrau Testosteron, Boldenon (a adwaenir fel Equipoise), Methandrostenolon (a adwaenir fel Dianabol), Fflwocsiymesteron (a adwaenir fel Halotestin), Drostanolon (a adwaenir fel Masteron), Methenolon (a adwaenir fel Primobolan), Stanosolol (a adwaenir fel Winstrol), Mesterolon (Proviron), Ocsimetholon (a adwaenir fel Anapolan neu Nap-50), Ocsandrolon (a adwaenir fel Anavar), Nandrolon decanoat (a adwaenir fel Deca Durabolin neu dim ond ‘Deca’), Trenbolon.

An example of what Steroidau Anabolic Androgenig looks like
Tabledi a hylif chwistrellu mewn poteli neu ffiolau.

Effeithiau A Ddymunir:

Cyhyrau mwy a pherfformiad gwell, nodweddion corfforol gwell.

Sgîl Effeithiau:

  • Moelni patrwm gwrywaidd
  • Acne
  • Y ceilliau yn crebachu ac yn caledu
  • I ddynion, meinwe'r frest yn datblygu
  • I ferched, datblygu nodweddion gwrywaidd; clitoris chwyddedig, tarfu ar gylch y mislif, blew ar yr wyneb, llais yn dyfnhau.
  • Cynyddu libido
  • Os caiff ei ddefnyddio yn ystod beichiogrwydd, perygl o niwed difrifol i'r ffetws.
  • Os byddwch yn chwistrellu steroidau, sicrhewch fod y nodwyddau yn lân a heb eu defnyddio; cysylltwch â chyfnewidfa nodwyddau neu asiantaethau cyffuriau i gael nodwyddau glân a gwybodaeth am chwistrellu mwy diogel.
  • Caiff steroidau chwistrelladwy eu rhoi trwy bigiad mewngyhyrol bob amser; nid oes unrhyw steroidau anabolig y gellir eu cymryd yn fewnwythiennol.
  • Cyn defnyddio steroidau, ceisiwch gyngor gan weithiwr cyffuriau. Gall gweithwyr cyffuriau roi cyngor i chi ynghylch chwistrellu mwy diogelu a dangos i chi ble gallwch chi gael gwybodaeth am steroidau.
  • Bydd cymryd steroidau trwy'r geg yn lleihau'r risgiau a'r problemau sy'n gysylltiedig â chwistrellu. Fodd bynnag, gall cymryd steroidau trwy'r geg wneud mwy o niwed i'ch iau a gallant fod yn fwy gwenwynig i'ch arennau.
  • Addysgwch eich hun cymaint ag y gallwch chi cyn cychwyn defnyddio AAS. Mae gan Iechyd Cyhoeddus Cymru wefan. https://www.ipedinfo.co.uk/

Tymor Hir:

  • Iselder
  • Mania
  • Gwaethygu ymddygiad ymosodol.
  • Newidiadau niweidiol o ran colesterol
  • Acne
  • Pwysedd gwaed uchel
  • Newidiadau peryglus yn strwythur y galon.
  • Mae gan niwed i'r iau gysylltiad penodol â chymryd steroidau anabolig trwy'r geg.
  • Os bydd pobl ifanc yn eu cymryd, gall camddefnyddio steroidau anabolig amharu ar dyfiant normal. Gall achosi dibyniaeth seicolegol.

Tymor Byr:

Heintiau cyfyngedig yn sgil cynhyrchion wedi'u halogi neu brosesau pigo aflan. Gall rhannu nodwyddau a chyfarpar chwistrellu ag eraill ledaenu HIV a heintiau firysau hepatitis.
Bydd steroidau yn ysgogi meinwe'r cyhyrau i dyfu a dod yn fwy swmpus mewn ymateb i ymarfer trwy ddynwared effaith testosteron a gynhyrchir yn naturiol ar y corff.

Tabledi a hylif chwistrelladwy mewn poteli neu ffiolau. Mae Steroidau Anabolig-Androgenig yn gyffuriau synthetig sy'n dynwared testosteron, y prif hormon rhywiol gwrywaidd. Mae anabolig yn cyfeirio at y prif nodweddion dymunol (e.e. datblygu'r cyffuriau, adfer) ac mae androgenig yn cyfeirio at yr effeithiau eilaidd a allai fod yn ddymunol neu beidio (twf blew ar y corff, y llais yn dyfnhau, libido yn cynyddu. Mae AAS yn un o blith ystod o gyffuriau a ddefnyddir gan gorff-feithrinwyr i ddatblygu cyffuriau, rheoli pwysau a rheoli'r sgil effeithiau. Gelwir y rhain yn Gyffuriau Gwella Delwedd a Pherfformiad (IPEDs).
Drwy'r geg, chwistrellu’n fewngyhyrol. Ni ddylid chwistrellu steroidau i wythïen ar unrhyw gyfrif.
Chwistrellu - nodwyddau a chwistrelli
Defnyddir hwy i drin  anaemia aplastig. Mae steroidau anabolig wedi cael eu defnyddio yn y gorffennol i drin osteoporosis mewn merched, ond ni argymhellir eu defnyddio at y diben hwn erbyn hyn.
Cânt eu cynhyrchu mewn labordai cudd. Cynhyrchion fferyllol mewnforiedig, wedi'u dargyfeirio o'r diwydiant fferyllol.
Mae 'asiantaethau stryd' neu brosiectau, (a elwir weithiau yn wasanaethau cyffuriau cymunedol neu dimau cyffuriau cymunedol) ar gael yn y rhan fwyaf o ardaloedd y DU, sy'n cynnig ystod o wasanaethau yn cynnwys gwybodaeth a chyngor, cwnsela, ac weithiau grwpiau cefnogi a therapïau cyflenwol fel aciwbigo. Mae gan rai gwasanaethau oriau gwaith estynedig ac mae rhai'n cynnig cefnogaeth ar benwythnosau. Os yw defnyddio'r sylwedd hwn yn dod yn broblem, gellwch chwilio am gymorth, cyngor a chwnsela gan wasanaeth yn eich ardal. Gall meddygon teulu wneud atgyfeiriadau i wasanaethau arbenigol cyffuriau. I'r rhai sy'n dioddef â phroblemau seicolegol oherwydd defnyddio steroidau, gall asiantaethau cwnsela fod yn briodol.

Rhieni a pherthnasau eraill

Mae asiantaethau cyffuriau hefyd yn darparu llawer o gyngor a chefnogaeth i rieni pobl sy'n defnyddio'r cyffuriau hyn. Gall llawer o asiantaethau stryd gynnig grwpiau cefnogi neu gwnsela i aelodau teuluoedd, partneriaid ac ati.

Cuddio
Ffôn di-dal: