Suboxone
suboxone- Suboxone
Enwau Gwyddonol: Buprenorphine Hydrochloride and Naloxone Hydrochloride
Enwau Generig: Suboxone

Effeithiau A Ddymunir:
Dedwyddwch, llai o bryder, ymlacio.Sgîl Effeithiau:
Cur pen, syndrom diddyfnu, teimlo'n sâl, methu cysgu a chwysuTymor Hir:
Mae camddefnydd mewnwythïenol o buprenorphine, fel arfer ar y cyd â benzodiazebine neu iselyddion CNS eraill (gan gynnwys alcohol) wedi cael eu cysylltu â gostyngiad resbiradol arwyddocaol a marwolaeth.Tymor Byr:
Gall cymysgu Suboxone gyda chyffuriau fel benzodiazepine, alcohol, tabledi cysgu a thawelyddion eraill, rhai cyffuriau gwrthiselder, neu feddyginiaethau opioid eraill fod yn beryglus, yn enwedig heb fod o dan ofal meddyg, neu os bydd y dosau'n wahanol i'r rhai a ragnodwyd gan eich meddyg. Call cymysgu'r cyffuriau hyn arwain at syrthni, llonyddiad, anymwybyddiaeth a marwolaeth, yn enwedig drwy chwistrelliad.Rhieni a pherthnasau eraill
Mae asiantaethau cyffuriau hefyd yn darparu llawer o gyngor a chefnogaeth i rieni pobl sy'n defnyddio'r cyffuriau hyn. Gall llawer o asiantaethau stryd gynnig grwpiau cefnogi neu gwnsela i aelodau teuluoedd, partneriaid ac ati.