Toddyddion

solvents
  • nwy butane
  • Trichlorophane
  • Trichlorethylene
  • Toluene
  • Perchlorethylene
  • Naptha
  • Mexane
  • Ketone
  • Ethyl Ether
  • Cyclotexane
  • Chloroform
  • Carbon Tetrachloride
  • Benzene
  • Acetone
  • Acetate

Cyffuriau A i Y

Enwau Gwyddonol: Fel y rhestr enwau cyffredin, mae'r rhestr yn eang ac yn cynnwys y cynnyrch canlynol sy'n cynnwys y cemegau canlynol: acetate, acetone, benzene, carbon tetrachloride, chloroform, cyclotexane, ethyl ether, ketone, mexane, naptha, perchlorethylene, toluene, trichlorethylene, trichlorophane.

Enwau Generig: Ar un adeg, yr enw ar hyn oedd 'sniffian glud' ond ehangwyd y term i gael ei alw'n 'camddefnyddio toddyddion', i gydnabod yr ystod ehangach o sylweddau a ddefnyddiwyd. Oherwydd mai nwyon yw rhai o'r sylweddau a gaiff eu sniffian, y term a ddefnyddir ar hyn o bryd yw 'Camddefnyddio Sylweddau Anweddol', neu VSA.

An example of what Toddyddion looks like
Nifer o nwyddau cartref a diwydiannol, gan gynnwys: Chwistrell gwallt, diaroglydd, ffresnydd awyr, teneuwyr, petrol, diffoddwyr tân, ail-lenwadau taniwr nwy, tuniau neu diwbiau glud, rhai paent, teneuwyr a hylifau cywiro, hylifau glanhau, gwirod feddygol, hylifau sychlanhau a chynnyrch petroliwm.

Effeithiau A Ddymunir:

Meddwdod, dim ataliad, llai o bryder. Gall effeithiau meddwdod sylweddau amrywio'n eang yn ddibynnol ar y dos a pa fath o doddydd neu nwy a anadlir. Gall anadlu mwy o sylweddau neu nwyau arwain at brofi effeithiau cryfach megis afluniad mewn dirnadaeth amser a lle, rhithwelediadau ac aflonyddwch emosiynol.

Sgîl Effeithiau:

Ffwndro, syrthni, methu cydlynu, lleferydd aneglur, teimlo'n sâl, chwydu, aflonyddwch gweledol.
  • Peidiwch â chwistrellu aerosolau yn uniongyrchol i'ch ceg; mae hyn yn beryglus iawn a gall rewi'ch gwddf neu beri i'ch gwddf chwyddo; gall hyn achosi anadlu i fynd yn afreolaidd neu stopio a gall roi straen ar eich calon.
  • Peidiwch ag anadlu trwy roi bagiau plastig dros eich pen oherwydd gall hyn achosi mygu. Mae anadlu trwy frethyn yn llai o risg.
  • Peidiwch â chymysgu â chyffuriau eraill - yn enwedig alcohol oherwydd gall hyn arwain at anymwybyddiaeth a marwolaeth.
  • Defnyddiwch symiau bach yn unig yn enwedig os ydych chi'n ddefnyddiwr dibrofiad, a cheisiwch beidio â defnyddio dro ar ôl tro.
  • Os dewiswch ddefnyddio toddyddion defnyddiwch mewn amgylchedd diogel h.y. nid ar reilffordd, traffordd neu ardaloedd diwydiannol ac ati. Defnyddiwch pan fydd pobl eraill yn bresennol a chael rhywun rydych chi'n ymddiried gyda chi rhag ofn i bethau fynd o chwith.
  • Mae llawer o'r cynhyrchion hyn yn fflamadwy iawn ac os cânt eu defnyddio ar yr un pryd ag ysmygu, neu ddefnyddio fflam noeth, gallant niweidio chi neu eraill o'ch cwmpas, achosi tanau neu hyd yn oed ffrwydro.
  • Peidiwch â gyrru tra dan y dylanwad oherwydd gallant effeithio ar gydlynu a'r gallu i farnu cyflymder a phellter.
  • Peidiwch â defnyddio mewnanadlwyr pan fyddant mewn cyflwr negyddol; neu i gymylu teimladau negyddol oherwydd gallent waethygu'r teimladau negyddol hynny. Hefyd rydych chi'n fwy tebygol o ddod yn ymosodol ac ymddwyn yn beryglus a allai niweidio'ch hun a / neu eraill.
  • Mae marwolaeth a gorddos yn risg real iawn gyda thoddyddion a gall ddigwydd ar unrhyw adeg, waeth pa mor brofiadol ydych chi'n meddwl ydych chi.
  • Os yw rhywun yn dioddef effeithiau gwael fel chwydu, confylsiynau, ,ynd yn anymwybodol - rhowch nhw yn y safle adfer a galwch am gymorth meddygol ar unwaith.

Tymor Hir:

Nid oes llawer o ymchwil i risgiau tymor hir o VSA. Fodd bynnag, mae anadlu rhai toddyddion yn gall achosi colli clyw, gwayw yn yr aelodau a niwed i'r system nerfau canolog a'r ymennydd. Effeithiau difrifol, ond o bosibl y gellir eu gwrthdroi yw niwed i'r iau a'r arennau, a diffyg ocsigen i'r gwaed. Mae marwolaeth o anadliad yn cael ei achosi fel arfer drwy grynodiad mawr o fygdarth. Mae anadlu toddyddion o fag papur neu blastig neu mewn lle caeedig yn cynyddu'r siawns o fygu. Mae'n nodweddiadol gweld niwed i'r ymennydd yn sgil deunydd cronig tymor hir, yn wahanol i amlygiad tymor byr. Mae astudiaethau diwydiannol wedi arddangos niwed i'r ymennydd, iau, arennau, ysgyfaint a'r llwybr anadlu yn sgil amlygiad tymor hir i rai o'r sylweddau uchod.

Tymor Byr:

Yn y tymor byr, bydd nifer o ddefnyddwyr yn profi cur pen, teimlo'n sâl a chwydu, lleferydd aneglur, methu cydlynu a gwich wrth anadlu. Ceir rhwng 50 a 100 o farwolaethau'n flynyddol yn sgil defnyddio toddyddion a sylweddau anweddol eraill. Mae'r rhain bron iawn i gyd yn deillio o risgiau tymor byr, ac mae'r rhan fwyaf o'r marwolaethau ymysg pobl yn eu harddegau. Mae rhai o'r marwolaethau yn sgil y technegau 'sniffian' a ddefnyddir. Bydd rhai defnyddwyr nwyon ac erosolau yn chwistrellu'r sylwedd yn uniongyrchol i'w ceg. Gall effaith llif o ronynnau oer fel rhew ar gefn y gwddf achosi tagu sydd wedi arwain at drawiad calon. Mewn achosion eraill, mae pobl ifanc wedi rhoi eu pennau mewn bagiau plastig sy'n cynnwys glud neu doddyddion ac wedi mygu. Mae anafiadau a marwolaethau eraill yn sgil damweiniau tra o dan ddylanwad. Mae'r rhain yn cynnwys boddi a damweiniau ffordd. I orffen, mae dosbarth o'r hyn a elwir yn "farwolaethau sniffian sydyn". Gall hyn fod o ganlyniad i'r effaith ar y galon o'r sylwedd dan sylw - yn aml butane - ac ymarfer ffyrnig sydyn tra dan ddylanwad. Gall hyn ddigwydd os bydd y sniffiwr e.e. yn cael ei ddilyn gan elyn gwir neu gau. Fel arfer y rheswm a roddir dros farwolaeth yw trawiad ar y galon, ond nid yw'r mecanweithiau wedi'u deall yn llawn.
Anadliad, iselydd y system nerfol ganolog.
Gellir gwacau cynnwys tin, erosol neu flwch i fag neu ei chwistrellu ar gadach neu lawes ac yna anadlu'r anwedd. Mae rhai defnyddwyr yn chwistrellu cynnwys erosolau neu flwch butane yn syth i’w cegau.
Bagiau'n cynnwys sylweddau anweddol, erosolau neu flychau nwy gwag.
Gellir defnyddio rhai fel anesthetig
Chwistrell gwallt, diaroglydd, ffresnydd awyr, teneuwyr, petrol, diffoddwyr tân, ail-lenwadau taniwr nwy, tuniau neu diwbiau glud, rhai paent, teneuwyr a hylifau cywiro, hylifau glanhau, gwirod feddygol, hylifau sychlanhau a chynnyrch petroliwm. Gellir dod o hyd iddynt yn y cartref neu eu prynu o siop leol.
Mae 'asiantaethau stryd' neu brosiectau, (a elwir weithiau yn wasanaethau cyffuriau cymunedol neu dimau cyffuriau cymunedol) ar gael yn y rhan fwyaf o ardaloedd y DU, sy'n cynnig ystod o wasanaethau yn cynnwys gwybodaeth a chyngor, cwnsela, ac weithiau grwpiau cefnogi a therapïau cyflenwol fel aciwbigo. Mae gan rai gwasanaethau oriau gwaith estynedig ac mae rhai'n cynnig cefnogaeth ar benwythnosau. Os yw defnyddio'r sylwedd hwn yn dod yn broblem, gellwch chwilio am gymorth, cyngor a chwnsela gan wasanaeth yn eich ardal. Gall asiantaethau cwnsela fod yn briodol ac mae gwasanaethau VSA arbenigol yn cael eu darparu hefyd mewn rhai ardaloedd. Gall meddygon teulu wneud atgyfeiriadau i wasanaethau arbenigol cyffuriau.

Rhieni a pherthnasau eraill

Mae asiantaethau cyffuriau hefyd yn darparu llawer o gyngor a chefnogaeth i rieni pobl sy'n defnyddio'r cyffuriau hyn. Gall llawer o asiantaethau stryd gynnig grwpiau cefnogi neu gwnsela i aelodau teuluoedd, partneriaid ac ati.

Cuddio
Ffôn di-dal:
Neu tecstiwch DAN i: