Tramadol

tramadol
  • Ultram
  • Tramal

Cyffuriau A i Y

Enwau Gwyddonol: (±)-trans-2-(dimethylamino)methyl)-1-(3-methoxyphenyl)cyclohexanol)

Enwau Generig: Tramadol Hydrochloride

An example of what Tramadol looks like
Fel arfer, tabledi gwyn neu gapsiwlau lliw, ond gellir cael ffurfiau hylifol hefyd.

Effeithiau A Ddymunir:

Ymlacio, syrthni, lleddfu poen, dedwyddwch ysgafn, cyn-herwydd a theimlad o les.

Sgîl Effeithiau:

Pendro, teimlo'n sâl, rhwymedd, ceg sych, cur pen, syrthni, chwysu, blinder, chwydu.

Tymor Hir:

Goddefiad, dibyniaeth gorfforol a seicolegol, symptomau diddyfnu, cynnydd mewn risgiau effeithiau anffodus mewn gorddos oherwydd ei elfennau gwrthiselder.

Tymor Byr:

Rhyngweithiad gyda meddyginiaethau eraill megis cyffuriau gwrthiselder a phoenladdwyr - gofynnwch am gyngor meddygol os ydych wedi cymryd y cyffur hwn gyda meddyginiaethau eraill. Mae'r risgiau hefyd yn cynnwys dirwasgiad resbiradol, confylsiwn, damweiniau ffwndro a gorddos. Mae cynnydd yn y marwolaethau sy'n gysylltiedig â Tramadol.
Opioid synthetig sy'n gemegol debyg i codeine a chyffur gwrthiselder. Iselydd y system nerfol ganolog, Poenladdwr, lleddfwr peswch, Tawelydd.
Bydd tabledi a chapsiwlau yn cael eu llyncu.
Dim.
Rhagnodir gan feddyg i drin poen canolig i ddifrifol.
Mae'n gyffur fferyllol sydd weithiau yn ailgyfeiriedig gan fasnachwyr, fferyllfeydd neu bresgripsiwn MT.
Gall y rhai sy'n defnyddio Tramadol gael cymorth gan 'asiantaethau stryd' neu brosiectau, a elwir weithiau yn wasanaethau cyffuriau cymunedol neu dimau cyffuriau cymunedol, sy'n cynnig ystod o wasanaethau gan gynnwys gwybodaeth a chyngor, cwnsela, dadwenwyno a rhagnodi i rai sy'n defnyddio opiadau, cyfnewid nodwyddau ac weithiau grwpiau cefnogi a gwasanaethau eraill fel aciwbigo. Mae rhai'n agor am oriau hirach ac weithiau ar benwythnosau. Gall meddygon teulu ac ysbytai atgyfeirio at wasanaethau fel Unedau Dibyniaeth Cyffuriau. Mae'r rhain fel arfer mewn neu ger ysbytai ac maen nhw'n arbenigo mewn helpu'r rhai sy'n defnyddio cyffuriau, yn enwedig pobl sy'n gaeth yn gorfforol. Maen nhw'n cynnig cwnsela, dadwenwyno, rhagnodi amnewidion a thriniaethau eraill. Mae gwasanaethau preswyl yn cynnig rhaglenni triniaeth i rai sy'n gaeth iawn i gyffuriau ac sy'n ymdrechu i roi'r gorau iddi. Rhaid i breswylwyr fod yn rhydd o gyffuriau wrth gael eu derbyn fel arfer, sy'n golygu bod yn rhaid iddynt gael eu dadwenwyno cyn mynd i mewn. Fel arfer, mae rhaglenni'n para 3-6 mis, ond mae rhai rhaglenni 12 cam yn para mwy. Mae'r mathau o raglenni yn amrywio. Mae grwpiau hunan gymorth fel Narcotics Anonymous (NA) yn cydlynu grwpiau cefnogi lleol i rai sy'n defnyddio cyffuriau ar hyd a lled y wlad. Mae Families Anonymous yn cynnal grwpiau tebyg i deuluoedd rhai sy'n defnyddio cyffuriau.

Rhieni a pherthnasau eraill

Mae asiantaethau cyffuriau hefyd yn darparu llawer o gyngor a chefnogaeth i rieni pobl sy'n defnyddio'r cyffuriau hyn. Gall llawer o asiantaethau stryd gynnig grwpiau cefnogi neu gwnsela i aelodau teuluoedd, partneriaid ac ati.

Cuddio
Ffôn di-dal:
Neu tecstiwch DAN i: