Xanax
xanax- Benzos
- Xanies
- Alprazolam
- Bars
- Planks
- Bricks
Enwau Gwyddonol: Alprazolam
Enwau Generig: Benzodiazepine
Ni allwch bob amser fod yn siŵr mai'r hyn a brynwch yw'r hyn a gewch, ond os ydych am anfon unrhyw
sylwedd i ffwrdd i'w brofi, gallwch ei anfon at WEDINOS
- Mae Xanax yn enw brand ar gyfer math o benzodiazepine o'r enw alprazolam. Daw'r cynnyrch fferyllol cyfreithlon mewn gwahanol siapiau a meintiau. Mae tabledi crwn a hirgrwn dos is ar gael mewn dosau 0.25mg a 0.5mg. Mae'r bar Xanax (go iawn) yn cynnwys 2mg o alprazolam ac mae'n far hirsgwar gwyn gyda Xanax wedi'i ysgrifennu ar un ochr. Nid yw'r cynnyrch hwn ar gael ar y GIG, felly mae bron pob un o'r tabledi a werthir fel Xanax yn ffug.
- Gall bariau Xanax ffug fod yn ‘Red Devils’, yn ‘Green Hulks’ yn wyrdd ac yn fwy diweddar yn ddu, yn las ac mae bron i unrhyw fariau lliw eraill wedi’u gweld. Mae'r rhain i fod mewn cynhyrchion uwch na'r bar Xanax gwyn, ond waeth beth fo'r lliw maen nhw i gyd yn gynhyrchion ffug.
- Mae Alprazolam tua 20 gwaith yn fwy pwerus na diazepam. Felly, bar Xanax gwyn (go iawn) yw 2mg alprazolam, sy'n hafal i bedair tabled diazepam glas 10mg. Fodd bynnag, mae'n anghyffredin iawn i fariau Xanax gynnwys alprazolam. Maent yn cynnwys ystod o wahanol bensodiasepinau megis flualprazolam a bromazolam. Nid yw'r cynnwys byth yn gyson, ac nid yw'r dos ychwaith. Canfuwyd hefyd bod bariau Xanax yn cynnwys cyffuriau heblaw benzodiazepines, mewn rhai achosion opioidau pwerus o'r teulu 'nitazene'.
- Mae powdwr Xanax neu alprazolam hefyd yn cael ei werthu fel cyffur stryd. Unwaith eto, cymysgedd yw'r cynnwys, felly gallent gynnwys unrhyw beth. Mae rhai wedi cynnwys yr opioidau synthetig cryf sy’n cael eu galw’n ‘nitazenes’.
Effeithiau A Ddymunir:
- Ymlacio
- Llai o orbryder/tensiwn
- Tawelwch
- Cymorth cysgu
Sgîl Effeithiau:
- Dryswch
- Colli cof
- Syrthni
- Colli cydsymudiad
- Teimlo'n benysgafn
Tymor Hir:
- Dibyniaeth
- Symptomau tynnu’n ôl difrifol os caiff ei stopio’n sydyn
- Agoraffobia
- Pyliau o banig
- Gorbryder difrifol
Tymor Byr:
- Goddefgarwch
- Damweiniau
- Gorddos
- Mae gorddos angheuol â Xanax ‘go iawn’ yn bosibl ond yn brin, fodd bynnag o’i gyfuno ag alcohol a/neu gyffuriau eraill fel heroin, pregabalin neu benzodiazepines eraill.
- Risg o gymryd rhywbeth sy'n cynnwys dos llawer uwch o benzodiazepine cryf neu gyffur arall yn gyfan gwbl.
Mae benzodiazepines yn cynyddu effeithiau Gama-Aminobutyric Acid (GABA) ar yr ymennydd, gan wneud i'r defnyddiwr deimlo'n ymlaciol ac yn gysglyd, yn lleihau gorbryder ac yn achosi ymlacio cyhyrau.
Dosbarth C dan y Ddeddf Camddefnyddio Cyffuriau.
Wedi'i lyncu fel arfer, efallai y bydd y powdr yn cael ei ffroeni. Anaml y caiff ei chwistrellu gan fod hwn yn arfer hynod beryglus a gall arwain at grawniadau, heintiau croen a gorddos.
Sniffian: Malwr pils, arwyneb gwastad caled (fel drych neu wydr),tiwb neu bapur wedi’i rolio Os yw Tabledi yn cael eu malu’u chwistrellu: Nodwyddau a Chwistrellau, dŵr, llwy, Rhwymyn Tynhau, hidlwr.
Defnydd tymor byr am orbryder.
Fersiynau ffug wedi'u gweithgynhyrchu'n anghyfreithlon yn bennaf o liwiau amrywiol o fariau Xanax. Mae tabledi dos is ar gael ar bresgripsiwn.