Xylazine, medetomidine and detomidine

xylazine-medetomidine-and-detomidine
  • Xylazine
  • Medetomidine
  • Detomidine

Cyffuriau A i Y

Enwau Gwyddonol: Alpha-2 adrenergic receptor agonists

Enwau Generig: Tawelyddion milfeddygol nad ydynt yn opioidau

Effeithiau A Ddymunir:

Gan eu bod bron bob amser yn cael eu defnyddio i lygru cyffuriau eraill, anaml iawn y byddant yn cael eu defnyddio ar gyfer eu heffeithiau dymunol. Er hynny, credir y gallant ddwysau effeithiau cyffuriau eraill a’r tawelu trwm, dwys a achosir. Gallant hefyd ymestyn effeithiau tebyg i ‘gouch’ a geir o heroin o ansawdd gwael, a lleihau’r angen am ail ddos.

Sgîl Effeithiau:

Mae rhai o’r sgil-effeithiau’n cynnwys:
  • tawelu dwys
  • llewygu’n sydyn
  • bod yn anymwybodol (ddim yn deffro pan gaiff ei ysgwyd)
  • bod yn gysglyd
  • dryswch
  • colli’r cof a llewygu
  • cur pen
  • chwydu
  • llai o gydsymudedd
  • cyfradd curiad y galon yn is
  • diffyg ymateb
  • lleferydd aneglur
  • y golwg yn aneglur
  • lefel siwgr yn y gwaed yn uchel
  • Gan eu bod bron bob amser yn cael eu defnyddio i lygru cyffuriau eraill, dylech bob amser brofi unrhyw gyflenwad newydd o gyffuriau. Mae stribedi prawf ar gyfer xylazine a medetomidine ar gael i’w prynu ar-lein neu gellir eu cael am ddim gan eich gwasanaeth cyffuriau lleol.
  • Gall xylazine and medetomidine achosi tawelu dwys a hirfaith: os na ellir deffro ffrind, rhowch ef yn y safle adfer a ffoniwch am ambiwlans; oes yw’n cael trafferth anadlu neu wedi stopio anadlu (os yw’n welw iawn a’i wefusau’n las), gwnewch yn siŵr for ei lwybr anadlu’n glir a defnyddiwch ddulliau achub os ydych chi’n gwybod sut i wneud hynny.
  • Mae nalocson yn wrthwenwyn ar gyfer gorddos opioid. Nid yw’n gweithio ar xylazine na medetomidine ond dylid ei ddefnyddio o hyd gan y gallai’r person fod wedi cymryd cyffur opioid fel heroin, methadon neu ocsycodon hefyd.

Tymor Hir:

  • Ychydig o wybodaeth sydd ar gael ynglŷn â defnydd hirdymor mewn pobl.
  • Gwelwyd bod cysylltiad rhwng clwyfau a necrosis y meinwe (croen yn marw) â xylazine (yn bennaf pan gaiff ei chwistrellu), ond nid yw necrosis meinwe wedi’i gysylltu â medetomidine hyd yma.

Tymor Byr:

  • Mae gwenwyno o ganlyniad i medetomidine a xylazine yn cynnwys tawelu dwys, cyfradd curiad y galon sy’n beryglus o isel (bradycardia), pwysedd gwaed isel a lleihad yng ngallu’r system nerfol ganolog. Yn aml, mae gwenwyno o ganlyniad i medetomidine yn fwy difrifol ac yn para’n hirach na gwenwyno o ganlyniad i xylasine oherwydd ei fod yn gryfach.
  • Gall y cyfuniad o opioid and xylazine a/neu medetomidine ostwng cyfradd anadlu, cyfradd curiad y galon a phwysedd gwaed nes eu bod yn beryglus o isel.
  • Mae’n gyffredin defnyddio heroin ac opioidau stryd eraill gydag iselyddion fel diazepam a gabapentin. Os oes medetomidine a/neu xylazine hefyd yn y gymysgedd, mae cynnydd sylweddol yn y risg o orddos sy’n peryglu bywyd.
  • Er nad yw xylazine a medetomidine ar eu pen eu hunain yn achosi’r iselder anadlol difrifol sy’n gysylltiedig â meddwdod opioid, gall yr iselder dwys yn y statws meddyliol achosi perygl i’r llwybr anadlu a all arwain at fygu.
  • Gall dosau uchel o xylazine a medetomidine, neu eu cyfuno ag iselyddion eraill, achosi amnesia, colli teimlad corfforol, tawelu dwys, a/neu golli ymwybyddiaeth gan eich gadael yn agored i niwed ac â risg o gael damwain neu fod yn destun lladrad neu ymosodiad rhywiol.
Iselyddion y system nerfol ganolog.

  • Mae xylazine, medetomidine a detomidine yn dawelyddion nad ydynt yn opioidau sy’n cael eu defnyddio ar gyfer anifeiliaid mawr ym maes milfeddygaeth fel tawelyddion, cyffuriau ymlacio’r cyhyrau a lleddfu poen.
  • Mae medetomidine, detomidine a xylazine yn gyffuriau tebyg, ond mae medetomidine yn gryfach na detomidine, a 100 i 200 yn gryfach ac yn para’n hirach na xylazine.
  • Mae xylazine a medetomidine yn gyffredin iawn mewn opioidau synthetig stryd mewn rhannau o Ogledd America lle gelwir y gymysgedd yn ‘tranq’ neu ‘tranq dope’.
  • Yn anaml y bydd pobl yn y DU yn defnyddio, xylazine a medetomidine am eu heffaith ond yn y blynyddoedd diweddar, maen nhw wedi eu canfod yn llygru nifer o gyffuriau stryd gan gynnwys heroin, opioidau synthetig, codin, cannabinoidau synthetig a chetamin.
Maen nhw bron bob amser yn cael eu canfod fel sylwedd sy’n llygru cyffuriau eraill. Ond gellir eu chwistrellu, eu llyncu, eu ffroeni/sniffian neu eu hysmygu.
Defnyddir xylazine, medetomidine a detomidine fel tawelyddion, cyffuriau i ymlacio cyhyrau a lladd poen mewn meddygaeth filfeddygol. Defnyddir dexmedetomidine i gynnal tawelyddion mewn pobl sydd mewn gofal dwys.
Credir bod xylazine a medetomidine yn cael eu dargyfeirio o gyflenwadau milfeddygol cyfreithlon.
Cuddio
Ffôn di-dal: