Zopiclone

zopiclone
  • Zimovane
  • Zim-Zims
  • Zimmies
  • Zimmers
  • Zpc
  • Z-drugs
  • Zolpidem
  • Zaleplon
  • Zopiclone

Cyffuriau A i Y

Enwau Gwyddonol: 6-(5-chloropyridin-2-yl)-7-oxo-5H,6H,7H-pyrrolo[3,4-b]pyrazin-5-yl 4-methylpiperazine-1-carboxylate

Enwau Generig: Zimovane

An example of what Zopiclone looks like
Tabledi, capsiwlau. Daw'r tabledi mewn dosau dau gryfder: 7.5 mg and 3.75 mg

Effeithiau A Ddymunir:

Ymlacio, dedwyddwch, syrthni a theimlad o arafu. Gall defnyddwyr ddefnyddio'r cyffuriau hyn i helpu i ddod lawr oddi ar sylweddau eraill tebyg i symbylyddion.

Sgîl Effeithiau:

Anadlu a chyfradd y galon yn arafu, gweithrediad resbiradol dirwasgedig, posibilrwydd uchel o gamddefnyddio, dibyniaeth a goddefiad. Dirwasgiad mewn gweithgaredd meddyliol a bywiogrwydd, colli cof, colli cydweithrediad, amnesia, ymddygiad paranoid ac ymosodedd. Maen nhw'n gallu gadael blas metalig yn y geg.

Tymor Hir:

Dibyniaeth, risg o goma neu farwolaeth. Mae ymchwil wedi dangos, hyd yn oed wrth ddefnyddio dosau a ragnodir o Zopicolone, gall achosi canser a all effeithio ar yr ymennydd, ysgyfaint, coluddyn, y frest a'r bledren. Gall Zopiclone hefyd gael effaith negyddol ar y system imiwnedd, gan gynyddu'r risg o heintiau ac annwyd, ac ni argymhellir i bobl gyda chlefydau'r iau neu aren, neu ferched sy'n feichiog neu'n bwydo ar y fron.

Tymor Byr:

Gorddos - mae'r risg hwn yn cynyddu os defnyddir gydag alcohol, opiadau neu sylweddau llonyddol/iselydd, risg o goma neu farwolaeth. Gall Zopiclone ryngweithio gyda sawl meddyginiaeth arall.
Mae'r cyffuriau hyn yn hypnotigion di-benzodiazepine/llonyddion o'r teulu Cyclopyrrolone o gyffuriau.
Bydd tabledi a chapsiwlau yn cael eu llyncu. Bydd rhai defnyddwyr o bosibl yn malu tabledi yn llwch i'w chwistrellu, ond mae hyn yn brin oherwydd bod y dull hwn yn anniben iawn a pheryglus. Nid yw'r meddyginiaethau hyn yn toddi ac os ymgeisir i'w chwistrellu, mae'n debygol o achosi niwed i'r gwythiennau, gan arwain at grawniad, thrombosis gwythïen ddofn (DVT), anewrysm, wlserau a gwythiennau faricos.
Os caiff ei chwistrellu, nodwydd, chwistrell ayb...
Fe'u rhagnodir ar gyfer rheoli anhunedd difrifol tymor byr, maen nhw'n cael effaith llonyddiad, a dylent gael eu defnyddio i gymell cwsg dros gyfnod o amser byr.
Maen nhw'n deillio o'r teulu Cyclopyrrolone o gyffuriau. Mae'n gyffur fferyllol sydd weithiau yn ailgyfeiriedig gan fasnachwyr, fferyllfeydd neu bresgripsiwn MT.
Mae 'asiantaethau stryd' neu brosiectau, (a elwir weithiau yn wasanaethau cyffuriau cymuned neu dimau cyffuriau cymuned) ar gael yn y rhan fwyaf o ardaloedd y DU, sy'n cynnig ystod o wasanaethau yn cynnwys gwybodaeth a chyngor, cwnsela, cyfnewid nodwyddau ac weithiau grwpiau cefnogi a therapïau cyflenwol megis aciwbigo. Mae rhai asiantaethau'n cynnig gwasanaethau arbennig megis cwnsela arbenigol, therapi ymddygiad gwybyddol, aciwbigo a therapïau amgen eraill a rhagnodi gwrthiselydd a chyfeiriadau posibl at adsefydlu preswyl. Mae gan rai gwasanaethau oriau gwaith estynedig ac mae rhai'n cynnig cefnogaeth ar benwythnosau. Gall meddygon teulu ac o bosibl yr adran achosion brys yn yr ysbyty lleol atgyfeirio i wasanaethau arbenigol cyffuriau yn ogystal â gwasanaethau meddygol cyffredinol, gwybodaeth a chyngor, yn aml mewn partneriaeth ag asiantaeth cyffuriau neu Uned Dibyniaeth ar Gyffuriau.

Rhieni a pherthnasau eraill

Mae asiantaethau cyffuriau hefyd yn darparu llawer o gyngor a chefnogaeth i rieni pobl sy'n defnyddio'r cyffuriau hyn. Gall llawer o asiantaethau stryd gynnig grwpiau cefnogi neu gwnsela i aelodau teuluoedd, partneriaid ac ati.

Cuddio
Ffôn di-dal:
Neu tecstiwch DAN i: