Adferiad
recoveryNid yw adferiad yn ymwneud ag unigolion yn camddefnyddio sylweddau yn unig, mae hefyd yn cynnwys lleihau risgiau, goresgyn dibyniaeth, gwella iechyd ac ansawdd bywyd yn ogystal â boddhad personol gyda'r pwyslais ar botensial person i newid. Mae'r model adfer presennol yn golygu bod gwasanaethau trin yn 'canolbwyntio ar adferiad' yn hytrach na chanolbwyntio ar leihau niwed yn unig; mae'n driniaeth mewn dull mwy cyfannol. Fodd bynnag, gall adferiad ddigwydd heb fewnbwn proffesiynol. Mae adferiad yn broses eang a chymhleth sy’n golygu rhywbeth gwahanol i wahanol bobl. Mae’n brofiad unigryw i bob unigolyn.
Ffôn di-dal: