Agoraffobia
agoraphobiaMae llawer o bobl yn tybio mai ofn mannau agored yn unig yw agoraffobia, ond mewn gwirionedd mae'n gyflwr mwy cymhleth. Mae agoraffobia yn golygu ofn bod mewn sefyllfaoedd lle gallai hi fod yn anodd dianc neu na fyddai cymorth ar gael pe bai pethau'n mynd o chwith. Er enghraifft, gallai rhywun ag agoraffobia ofni teithio ar drafnidiaeth gyhoeddus, ymweld â chanolfan siopa, neu adael eu cartref. Mae agoraffobia yn gyflwr cyffredin a gellir ei drin gan ddefnyddio therapi ymddygiad gwybyddol (CBT), sef math o therapi siarad a all helpu i newid eich ffordd o feddwl.
Ffôn di-dal: