Barbitwradau

barbiturates

Mae barbitwradau yn grŵp o gyffuriau a arferai gael eu rhagnodi'n rheolaidd ar gyfer gorbryder, iselder ysbryd a diffyg cwsg. Bellach maent wedi cael eu disodli bron yn gyfan gwbl gan benzodiazepines a zopiclone oherwydd y risg o ddibyniaeth a marwolaeth drwy gorddos.

Roedd barbitwradau’n arfer bod yn nodwedd cyffredin o fyd cyffuriau'r DU ac roedd cysylltiad cryf rhyngddynt â dibyniaeth, marwolaeth drwy gorddos ac, o'u cymryd gydag alcohol fe’u cysylltwyd ag ymddygiad treisgar. Mae'r barbitwrad hir-weithredol phenobarbital yn dal i gael ei ragnodi weithiau ar gyfer epilepsi ac weithiau defnyddir y barbitwrad sy'n gweithredu am gyfnod byr, sodiwm thiopental mewn anesthesia ond oherwydd mai ychydig iawn a ragnodir a gan nad oes amrywiadau anghyfreithlon, fach iawn o farbitwradau a welir fel cyffuriau stryd y dyddiau hyn. Mae barbitwradau yn dod o dan Ddosbarth B y Ddeddf Camddefnyddio Cyffuriau.

Cyffuriau A i Y

Cuddio
Ffôn di-dal: