Bod yn gaeth
addictionMae bod yn gaeth yn ymddygiad cymhellol sy'n digwydd er gwaethaf niwed corfforol, seicolegol neu gymdeithasol. Mae bod yn gaeth yn cael ei gysylltu fwyaf â chyffuriau, ond mae yfed alcohol, ysmygu sigaréts, a gamblo hefyd yn achosi dibyniaeth ac yn yr ystyr ehangaf mae’n bosibl mynd yn ‘gaeth’ i bron unrhyw beth, o’ch gwaith i edrych ar eich ffôn symudol. Mae bod yn gaeth yn derm cyffredin ond mae’n fwy cywir i’w alw’n ddibyniaeth seicolegol a/neu gorfforol. Gall dibyniaeth seicolegol ddod gydag unrhyw ymddygiad sy’n rhoi boddhad, neu unrhyw gyffur a gymerir yn rheolaidd. Ond gyda rhai cyffuriau fel heroin, sigaréts neu alcohol, gall dibyniaeth gorffofrol ddigwydd hefyd . Mae hyn yn golygu pan fydd defnyddwyr rheolaidd yn rhoi'r gorau i gymryd y cyffuriau yma, byddant yn profi ystod o symptomau diddyfnu corfforol yn ogystal â rhai seicolegol.