BZP
bzpMae BZP (1-benzylpiperazine) yn cael ei gynhyrchu o piperazine, sylwedd sydd wedi'i ddefnyddio ers blynyddoedd lawer fel cyffur gwrth-helminthig wrth drin achosion o lyngyr. Dechreuodd BZP gael ei ddefnyddio fel cyffur hamdden yn gynnar yn y 2000au fel dewis cyfreithlon yn lle amffetamin ac ecstasi, er yn llai grymus. Anaml iawn y caiff BZP ei ystyried yn gyffur stryd erbyn hyn. Mae BZP a piperazines amnewidiol yn dod o dan Dosbarth C yn y Ddeddf Camddefnyddio Cyffuriau.
Ffôn di-dal: