Co-proxamol

co-proxamol

Mae hefyd yn cael ei werthu fel Cosalgesic. Mae’n gyfuniad o ddau gyffur – parasetamol a dextropropoxyphene. Mae hyn yn creu cyffur sy’n cael ei ddefnyddio i drin poen ysgafn i gymedrol. Os oes rhywun wedi cymryd gormod o dextropropoxyphene, mae hynny’n gallu ymyrryd â’r broses anadlu, ac mae dos gormodol o barasetamol yn gallu achosi niwed i’r afu/iau a’r arennau nad yw’n bosibl ei ddadwneud. Mae dos gormodol yn bosibl iawn gyda’r ddau gyffur wrth eu cymryd ar wahân, a gyda’i gilydd maen nhw’n achosi risg ddifrifol i iechyd os bydd rhywun yn cymryd dos gormodol.

Cyffuriau A i Y

Cuddio
Ffôn di-dal:
Neu tecstiwch DAN i: